Bydd y prosiect yn archwilio'r ffactorau allweddol sydd wrth wraidd llwyddiant gweithgarwch rhyngwladol sefydliadau Cymru yn y dyfodol - yn y sectorau addysg bellach ac uwch - a bydd yn dod â rhwydwaith o arbenigwyr o Gymru, y DU ehangach a thu hwnt ynghyd i lunio cyfres o argymhellion.

Bydd y prosiect yn cael ei ariannu ganCCAUC, ac yn ddiweddarach y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) pan ddaw’n gwbl weithredol yn ddiweddarach eleni. Un o ddyletswyddau strategol CADY yw hyrwyddo ymagwedd fyd-eang.

Meddai Gwen Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Rhyngwladol Prifysgolion Cymru:

“Ni fu hyrwyddo agwedd fyd-eang erioed mor bwysig. Gyda recriwtio myfyrwyr rhyngwladol wedi’i osod mewn cyd-destun allanol hynod heriol a chystadleuol, mae angen i Gymru a’i sefydliadau ddod yn fwy cymwys i gystadlu’n fyd-eang. Mae canlyniadau peidio â gwneud hynny’n aruthrol - gan effeithio'n uniongyrchol ar gynaladwyedd ariannol y sector.

“Ymhellach, mae gan sefydliadau Cymru rwydwaith sylweddol o bartneriaid rhyngwladol ym meysydd ymchwil ac arloesedd, dysgu ac addysgu a symudedd. Bydd y gallu i ddatblygu a thyfu partneriaethau rhyngwladol yn strategol yn ganolog i'w gallu i ffynnu mewn marchnad fyd-eang sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol. 

“Er mwyn i Gymru ddod yn wirioneddol gystadleuol ac i gynnal a chynyddu ei henw da yn rhyngwladol, bydd yn hanfodol i CADY ysgwyddo’r ddyletswydd strategol hon ac ystyried y ffordd orau o sicrhau y gall sefydliadau Cymru gyflawni’n fyd-eang”.