• Rhwng 2014 a 2020, a'r blynyddoedd dilynol, buddsoddwyd oddeutu £370m mewn prosiectau cysylltiedig â phrifysgolion yng Nghymru drwy gronfeydd ERDF ac ESF. 
  • Mae yna 60 o brosiectau ar ôl y mae disgwyl iddynt ddod i ben eleni, gan roi tua 1,000 o swyddi mewn perygl
  • Byddai cyllid pontio o tua £71m yn galluogi prosiectau a ariennir gan ESIF yng Nghymru i barhau am 12 mis arall
  • Mae prifysgolion yng Nghymru’n cyfrannu £5 biliwn o allbwn i economi Cymru, ac yn cynnal dros 1 o bob 20 o swyddi yng Nghymru. 
  • Canfu asesiad yn 2021 o effaith ymchwil gan brifysgolion y DU fod mwy nag 89% o’r hyn a gyflwynwyd yng Nghymru yn “arwain y byd” neu’n “rhagorol yn rhyngwladol”, gan ddod â buddion diriaethol i gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.

Wrth siarad heddiw mewn digwyddiad yn San Steffan, dywedodd yr Athro Paul Boyle, Cadeirydd Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesedd Prifysgolion Cymru, ac Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, wrth gynulleidfa o ASau trawsbleidiol, oni fydd cyllid pontio ar gael, y bydd 60 o brosiectau ymchwil yn dod i ben, gan beryglu dyfodol tua 1,000 o swyddi medrus.

Rhwng 2014 a 2020, a'r blynyddoedd dilynol, buddsoddwyd oddeutu £370m mewn prosiectau cysylltiedig â phrifysgolion yng Nghymru drwy gronfeydd ERDF ac ESF.

Mae dileu’r arian o Gronfeydd Strwythurol yr UE bellach yn golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau a fydd yn arwain at golli’r medrau a’r seilwaith sydd eu hangen i gynnal datblygiad rhanbarthol yng Nghymru.

“Mae Prifysgolion yn chwarae rhan hanfodol mewn arloesedd, sydd yn ei dro yn arwain at greu busnesau newydd, swyddi newydd, a gwella cyflogau. Dyma un o’r manteision economaidd allweddol y mae ein prifysgolion yn ei sicrhau i’r wlad, gan gynhyrchu dros £5 biliwn o allbwn i economi Cymru bob blwyddyn.” meddai'r Athro Boyle.

“Mewn marchnad fyd-eang sy’n gynyddol gystadleuol, rydym mewn perygl o fethu â manteisio i’r eithaf ar un o gryfderau mwyaf parhaol y wlad hon ac sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol” rhybuddiodd.

Er gwaethaf maint y broblem a nifer y swyddi sydd mewn perygl, mae’r gost o ddarparu cyllid pontio i gynnal y prosiectau hyn yn gymharol fach. Amcangyfrifir y byddai parhau â phrosiectau a ariennir gan ESIF yng Nghymru am 12 mis pellach yn costio tua £71m.

Ychwanegodd yr Athro Boyle:

“Byddai camu’n ôl o ymyl y dibyn yn arbed cannoedd o swyddi, yn cynnal ystod o brosiectau arloesedd blaengar sy’n sbarduno twf economaidd, ac yn darparu buddsoddiad uniongyrchol mewn meysydd y mae llywodraeth y DU wedi datgan sydd wrth wraidd eu huchelgais ar gyfer Ffyniant Bro.

Ychwanegodd Geraint Davies AS, a noddodd y digwyddiad:

“Rwy’n falch o noddi’r digwyddiad hwn, i ddod ag ASau Cymreig at ei gilydd i ddwyn pwysau er mwyn helpu i ddiogelu’r prosiectau ymchwil allweddol hyn ledled Cymru sydd mor bwysig i economi’r DU.

“Mae ein prifysgolion yn chwarae rhan hanfodol fel peiriannau economaidd ledled Cymru, gan ddod â swyddi a buddsoddiad i’w hardaloedd lleol. Mae’r prosiectau hyn yn bwysig i’n huchelgais yn y DU i gryfhau twf economaidd cynaliadwy, felly byddai eu colli’n sydyn yn ergyd fawr i’n cymunedau, ein heconomi a’n holl fuddiannau hirdymor.

“Dyna pam mae darparu cyllid pontio o £71 miliwn ar unwaith mor bwysig.

“Byddaf yn parhau i weithio gyda’n sector addysg uwch ac ASau eraill yn galw ar lywodraeth y DU i ddiogelu’r prosiectau a’r swyddi hyn er mwyn galluogi ein prifysgolion i barhau i gyflawni dros bobl a lleoedd Cymru.”

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru, yr Athro Elizabeth Treasure:

“Galluogodd arian o Gronfeydd Strwythurol yr UE ni i adeiladu ar ein gweithgarwch ymchwil ac arloesedd, gan weithio ar y cyd ar draws sefydliadau a rhanbarthau, a chryfhau'r cysylltiad rhwng datblygu sgiliau ac ymchwil ac arloesedd.

“Yn ogystal â chynorthwyo â chyfnewid gwybodaeth, fe wnaeth y prosiectau hyn ein galluogi i uwchsgilio mwy o bobl yng Nghymru o bob oed a chefndir.   

Y gwir amdani yw bod prosiectau fel y rhain mewn perygl, a bydd yr effaith hon i’w theimlo mewn economïau rhanbarthol ar draws Cymru gyfan.”