Prifysgolion dros Gymru gryfach
Mae maniffesto Prifysgolion Cymru ar gyfer etholiad Senedd 2026 yn nodi gweledigaeth feiddgar i Gymru, gyda phrifysgolion wrth wraidd cynllun uchelgeisiol ar gyfer adnewyddu cenedlaethol.
TMae'r byd o'n cwmpas yn newid yn gyflym. O'r chwyldro digidol a newid hinsawdd, i anghydraddoldeb cynyddol ac ansefydlogrwydd byd-eang, mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn gymhleth ac yn faterion brys.
Mae ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu ar ein gallu i feithrin talent, ysgogi arloesedd a darparu pobl â'r sgiliau i ffynnu mewn byd sy'n symud yn gyflym.
Mae ein maniffesto ar gyfer etholiad Senedd 2026 yn nodi gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer y wlad. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu Cymru fwy medrus, ffyniannus a hyderus drwy:
- Sicrhau swyddi a sgiliau ar gyfer y dyfodol
- Ysgogi cyfleoedd a symudedd cymdeithasol
- Datblygu datrysiadau i'n heriau mwyaf dyrys
- Cefnogi cymunedau Cymru
- Pontio Cymru a'r byd
Trwy weithio gyda'r llywodraeth, busnesau a chymunedau, gallwn sbarduno cyfnod o adnewyddu cenedlaethol yng Nghymru, gan fynd i'r afael â heriau heddiw a llunio agenda yfory.
Pan fo prifysgolion yn llwyddo, mae Cymru’n llwyddo.
