Gan gymryd yr awenau oddi wrth yr Athro Julie Lydon ym mis Awst 2021, camodd yr Athro Treasure i rôl y Cadeirydd ar adeg gythryblus i’r sector, a oedd yn dal i deimlo effaith pandemig Covid-19.

Ar yr un pryd, roedd y sector addysg uwch yn wynebu adfywiad mawr yn sgil ffurfio’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn ogystal â cheisio ymdopi â heriau cyllido parhaus a cholli cyllid o’r UE ar fin digwydd.

Fel Cadeirydd, mae Elizabeth wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau hyn er budd ein prifysgolion a’r bobl y maent yn eu gwasanaethu – gan dywys y sector trwy adferiad o’r pandemig ac arwain y sector trwy’r diwygiadau mewn addysg drydyddol.

Trwy gydol ei chyfnod yn y rôl mae Elizabeth wedi mabwysiadu ymagwedd gydweithredol at arweinyddiaeth, sydd i’w weld orau efallai yn ei gwaith yn cefnogi ehangu rhaglen Cymru Fyd-eang i gynnwys addysg bellach am y tro cyntaf erioed.

Roedd hi hefyd yn benderfynol y dylai Cymru chwarae rhan sylweddol o fewn sector ehangach y DU, ac roedd yn hapus i arwain ar hyn, gyda rolau yn UCEA ac UCAS, yn ogystal ag ymgymryd â rôl Is-Lywydd sefydliad Prifysgolion y DU (UUK).

Penodwyd yr Athro Elizabeth Treasure yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2017, a chyn hynny roedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd. Graddiodd o Brifysgol Birmingham, lle derbyniodd BDS a PhD. Yn dilyn ei PhD bu’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn y GIG cyn parhau â’i gyrfa academaidd ym Mhrifysgol Otago, Seland Newydd cyn symud i’r Ysgol Ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ystod ei chyfnod yn gweithio yng Nghymru, mae Elizabeth wedi bod yn hyrwyddwr cyson dros y Gymraeg, gan roi ei geiriau ar waith a dod yn ddysgwr uwch ei hun.

Wrth edrych yn ôl ar gyfnod Elizabeth fel Cadeirydd, meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:

“Mae Elizabeth wedi bod yn arweinydd rhagorol ac yn gydweithiwr twymgalon a chefnogol. Yn ei chyfnod fel ein Cadeirydd, mae hi wedi gwneud cyfraniad enfawr i addysg uwch, yma yng Nghymru a ledled y DU yn ehangach; mae hi wedi chwarae rhan sylweddol wrth arwain y sector trwy gyfnod o newid sylweddol wrth i ni symud tuag at weithredu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd.

Yn benodol, mae gallu Elizabeth i weld pethau o wahanol safbwyntiau, i gydweithio, ac, yn hollbwysig, i gyfaddawdu, wedi golygu ei bod wedi gallu meithrin cydberthnasau gwaith effeithiol, a gwn fod ei dull pragmataidd a chefnogol yn cael ei werthfawrogi gan bobl ar draws y sector a thu hwnt.

Rwyf wedi mwynhau gweithio gydag Elizabeth yn fawr a dymunaf y gorau iddi at y dyfodol.”