‘Hoffwn ddiolch i Mark Drakeford ASC am ei gefnogaeth a’i gyfraniad sylweddol i addysg uwch yng Nghymru.’

‘Trwy gydol ei gyfnod fel Prif Weinidog, mae wedi cefnogi partneriaeth gymdeithasol, wedi hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru, yn ogystal â helpu ein prifysgolion yng Nghymru i gryfhau eu rôl fel angor yn eu lleoliadau, gan gadarnhau lle Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.’

‘Ar ran Prifysgolion Cymru, dymunaf y gorau i Mark ar gyfer y dyfodol.’