
Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi'r Athro Elwen Evans, CB, fel Cadeirydd newydd
Mae Prifysgolion Cymru wedi cyhoeddi mai’r Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCyDDS), fydd eu Cadeirydd newydd o 1af Awst.
1 Awst 2025
Bydd yr Athro Evans yn olynu’r Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, sydd wedi dal y rôl ers 2023.
Dywedodd yr Athro Evans:
“Rwyf wrth fy modd o gael fy ethol yn Gadeirydd Prifysgolion Cymru. Mae hwn yn gyfnod heriol i'r sector yn ddiamau ond mae llawer i fod yn gadarnhaol amdano, gan gynnwys boddhad myfyrwyr cynyddol ledled Cymru, y cynnydd cyflym mewn busnesau newydd sy’n cael eu sefydlu gan fyfyrwyr, a'r ymchwil diweddar sy'n dangos yr effaith sylweddol mae ein prifysgolion yn ei chreu ar gyfer economi Cymru.
“Gydag etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous ymgymryd â rôl y Cadeirydd. Mae Addysg Uwch yn ffactor arwyddocaol mewn ysgogi cyfleoedd a symudedd cymdeithasol, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod ein prifysgolion yn parhau i fod ymhlith asedau mwyaf Cymru, nawr ac am genedlaethau i ddod.
“Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Athro Paul Boyle am ei waith fel Cadeirydd Prifysgolion Cymru ers 2023. Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran fy holl gydweithwyr yng Nghymru wrth ddweud bod ei arweinyddiaeth feddylgar, ei ddull cefnogol a chydweithredol, a'i brofiad helaeth wedi cael eu gwerthfawrogi gan bawb.”
Ychwanegodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:
“Mae hon yn foment hollbwysig i brifysgolion yng Nghymru wrth i ni barhau i addasu i system addysg drydyddol newydd, mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r sector, a pharatoi ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
“Rwy’n hyderus y bydd profiad, arbenigedd ac arweinyddiaeth gref yr Athro Evans yn ein galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi i gyflawni ein cenhadaeth o gefnogi system brifysgol sy'n trawsnewid bywydau ac yn dod â manteision i bobl a chymunedau ledled Cymru gyfan.
Mae'r Athro Evans yn dod â phrofiad helaeth a gyrfa nodedig i'w rôl fel Cadeirydd. Ar ôl astudio'r Gyfraith yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, mynychodd Ysgol y Gyfraith Neuaddau’r Frawdlys a chafodd ei galw i'r Bar gan Gray's Inn ym 1980. Fe'i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002.
Yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel bargyfreithiwr a Phennaeth Siambr, ymunodd yr Athro Evans â'r sector prifysgolion, gan ddod â'i phrofiad helaeth i arweinyddiaeth addysg uwch. Cyn ymuno â PCyDDS yn 2023, roedd hi'n Ddirprwy Is-Ganghellor ac yn Ddeon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn siaradwr Cymraeg, mae'r Athro Evans wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol i feithrin a hyrwyddo cyfleoedd i unigolion a chymunedau yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol. Fe’i hanrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i’r Gyfraith yng Nghymru ac roedd yn Gomisiynydd ar y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru. Mae'r Athro Evans hefyd yn Aelod o Fwrdd AU Ymlaen, y corff aelodaeth proffesiynol sy'n hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg uwch.