![Young woman smiling and working on a laptop in a library](/sites/default/files/styles/large/public/2022-02/e1f9a9df-42c5-fb29-df48-5f41af901265.png?h=df3c6bf4&itok=MSM6j1C5)
Prifysgolion Cymru sydd â'r cynnydd mwyaf mewn ceisiadau yn y DU
Mae ffigurau diweddaraf UCAS a ryddhawyd heddiw ar gyfer y dyddiad cau, sef 26ain Ionawr, yn dangos mai prifysgolion Cymru sydd â’r cynnydd mwyaf yn nifer y ceisiadau yn y DU.
17 February 2022
Meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:
“Rydym yn falch o weld data diweddaraf UCAS sy’n dangos bod cyfraddau ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru wedi parhau i godi. Gyda chynnydd o 3% mewn ceisiadau, prifysgolion Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o blith gwledydd y DU.
“Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnig unigryw a wneir gan brifysgolion yng Nghymru i fyfyrwyr, gan gynnwys profiad rhagorol i fyfyrwyr, fel yr adlewyrchir yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.
“Mae ffigurau heddiw hefyd yn dangos bod gan Gymru’r gyfran uchaf erioed o bobl ifanc 18 oed yn dewis mynd i’r brifysgol, gyda 37.5% o’r garfan yn ymgeisio. Mae'n amlwg bod pobl ifanc yn parhau i gydnabod manteision addysg uwch a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil mynd i brifysgol.
Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mae gan ein prifysgolion rôl hollbwysig i’w chwarae yn adferiad economaidd a chymdeithasol Cymru. Bydd Cymru angen mwy o bobl â sgiliau lefel gradd i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn awtomeiddio yn y gweithle, tyfu economi Cymru a mynd i’r afael â materion fel newid yn yr hinsawdd.”