Mae’r Fframwaith hwn y cyntaf o’i fath yn y DU, a’r cyntaf yn y byd i gael pob prifysgol mewn gwlad yn rhan ohono; fe’i datblygwyd gan Rwydwaith Cennad Ddinesig Cymru, â’r nod o flaenoriaethu cennad ddinesig a chryfhau cysylltiadau â’r cymunedau o’u cwmpas.

Mae’r Fframwaith yn galluogi prifysgolion i rannu arfer gorau wrth ddatblygu a chynnal prosiectau cennad ddinesig, ac mae’n cynorthwyo’r sector i ddangos effaith gadarnhaol ei waith ar gennad ddinesig.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth galon y Fframwaith Cennad Ddinesig, gyda’r saith nod llesiant o’r ddeddfwriaeth unigryw hon yn ffurfio’r egwyddorion allweddol sy’n arwain sut mae prifysgolion yn cyfrannu at gennad ddinesig yng Nghymru.

Lansiwyd y Fframwaith yn swyddogol yn Arddangosfa Cennad Ddinesig Prifysgolion Cymru, gyda’r Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams ASC, yn traddodi’r brif araith.

Roedd y digwyddiad ar-lein hefyd yn cynnwys cyfres o astudiaethau achos yn tynnu sylw at y gweithgareddau a gyflawnwyd gan brifysgolion Cymru er budd eu cymunedau lleol a’r byd ehangach – o arwain prosiect cenedlaethol ar fonitro dŵr gwastraff am Covid-19, i ddarparu cymorth i bobl hŷn sy’n profi cam-driniaeth ddomestig.

Wrth siarad yn y digwyddiad, meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i’r sector ac i mi yn bersonol – mae’r fframwaith hwn wedi’i ddatblygu ym mhrifysgolion Cymru, ac ar eu cyfer nhw, a’n pobl a’n lleoedd.

“Rwyf am longyfarch y Rhwydwaith Cennad Ddinesig a mynegi fy ngwerthfawrogiad bod CCAUC wedi gallu cefnogi’r fenter.

“Trwy ffurfioli’r rôl a hyrwyddo cennad ddinesig mewn deddfwriaeth, rydym ar drothwy rhywbeth cyffrous iawn.

“Rwy’n hyderus bod gennym sector sy’n gryf o ran y gwerthoedd hynny a rennir, er lles pawb, o ofalu am gymunedau a’n gwlad, ac rwy’n gobeithio, yn y cyfnod nesaf, y gwelwn ymrwymiad cryfach fyth i gennad ddinesig.”

Meddai Lynnette Thomas, Cadeirydd y Rhwydwaith Cennad Ddinesig:

“Mae prifysgolion yng Nghymru wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau ers amser maith, gyda hanes balch o weithio gyda phobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnes.

“Yn y Fframwaith Cennad Ddinesig, mae gan brifysgolion strwythur effeithiol a fydd yn eu galluogi i barhau ac adeiladu ar y gwaith hwn i gynorthwyo ein cymunedau mewn ardaloedd lle mae mawr angen y cymorth hwnnw, i helpu â chreu Cymru fwy gwydn a chyfartal.”

Meddai’r Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae’r amhariad a welwyd yn sgil Covid-19 wedi dysgu un peth pwysig i ni, sef bod gan brifysgolion yng Nghymru allu unigryw i ddod at ei gilydd a chreu effaith wirioneddol ar draws cymunedau mewn cyfnod o angen.

“Mae prifysgolion yng Nghymru yn cydnabod bod y wlad yn wynebu amrywiaeth o heriau dros y blynyddoedd i ddod, a bod yn rhaid i’w rôl mewn darparu’r hyn sydd ei angen ar y wlad i ymateb i’r heriau hynny fod yn flaenoriaeth strategol. Byddant yn parhau i flaenoriaethu cennad ddinesig ac yn trafod ag arweinwyr ar draws eu rhanbarthau â’r nod o fynd i’r afael â newidiadau cymdeithasol allweddol a sicrhau deilliannau cadarnhaol i’w cymunedau.”

Meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC:

“Rydym yn falch o gynnig cefnogaeth i Brifysgolion Cymru allu datblygu Rhwydwaith Cennad Ddinesig Cymru, sydd wedi creu strwythur defnyddiol yn y Fframwaith Cennad Ddinesig sy’n cael ei lansio heddiw. Mae’n bleser gennym weld bod yr Arddangosfa heddiw yn rhoi cyfle i brifysgolion yng Nghymru rannu eu gwaith cennad ddinesig â chynulleidfa ehangach. Byddwn yn parhau i gefnogi sefydliadau yn y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud yn eu cymunedau a gyda nhw.”

For more information on the work our universities do with their communities, visit our case studies section and select 'Civic mission'.