“Mae’r cymorth hanfodol hwn i’r sector prifysgolion yn cyrraedd ar adeg allweddol, ac mae’n arwydd o gydnabyddiaeth o’r rôl bwysig y bydd ein prifysgolion yn ei chwarae yn ein hadferiad o COVID-19 ledled Cymru. Mae’r datganiad hwn yn dangos bod Llywodraeth Cymru’n benderfynol o ddarparu sefydlogrwydd i’n prifysgolion, a bydd yn galonogol i fyfyrwyr sydd unwaith yn rhagor wedi datgan bod profiad myfyrwyr yng Nghymru yn rhagorol.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod prifysgolion, gan weithio gyda’n partneriaid ar draws y sectorau ôl-16, busnes ac elusennol, yn gallu cyflawni’r newid a’r buddion sydd eu hangen ar Gymru wrth i ni adeiladu dyfodol newydd.”