Pasbort i'r Ddinas: Prifysgol Plant Caerdydd
Mae plant a phobl ifanc ledled Caerdydd yn elwa ar gyfoeth o brofiadau dysgu, adnoddau a chyfleoedd drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd - Pasbort i’r Ddinas: Prifysgol Plant Caerdydd.
Nod y prosiect yw annog a datblygu cariad at ddysgu drwy roi mynediad i ddisgyblion at weithgareddau sy’n cynnwys celf a cherddoriaeth, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), yn ogystal â phrofiadau diwylliannol a gweithgareddau chwaraeon, pob un yn cyfrannu at y ‘Pasbort i Ddysgu'. Mae’r cynllun yn dod ag ystod o bartneriaid ar draws y ddinas ynghyd i fuddsoddi mewn codi dyheadau dysgwyr, tra’n datblygu llwybrau i wireddu’r dyheadau hyn.
Mewn seremoni raddio ddiweddar a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, gwobrwywyd mwy na 100 o blant am eu cyflawniadau, gan gynnwys pobl ifanc o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru’r Santes Fair yn Nhrebiwt ac Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái.