Mae newidiadau sylweddol yn digwydd ym myd gwaith. Mae digideiddio ac awtomeiddio yn symud ymlaen yn gyflym, ac yn eu sgil daw heriau a chyfleoedd cymdeithasol ac economaidd newydd wrth i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr barhau i esblygu.  Mae Covid-19 hefyd wedi cael yr effaith o gyflymu llawer o'r newidiadau hyn, gyda galwadau economaidd gwahanol yn dod i’r amlwg wrth i ni ddod allan o’r pandemig.  

Mae'r datblygiadau hyn, ynghyd â demograffeg Cymru sy'n heneiddio, yn golygu bod cynnig cyfleoedd i bobl ailsgilio neu uwchsgilio yn bwysicach nag erioed.

Un ffordd y mae ein prifysgolion yn ceisio mynd i’r afael â’r her hon yw trwy ddarparu prentisiaethau gradd. Gan gyfuno astudiaethau prifysgol â hyfforddiant yn y gwaith, mae prentisiaethau gradd yn cynnig llwybr amgen i gymwysterau lefel uwch, tra'n ddarparu dysgwyr â'r sgiliau y mae cyflogwyr heddiw yn chwilio amdanynt.

Llwybr newydd i radd

Dechreuodd y rhaglen brentisiaeth gradd gyntaf yng Nghymru yn 2018/19 gyda chyflwyniad y brentisiaeth gradd ddigidol. Ers hynny, mae’r rhaglen wedi ehangu i gynnwys prentisiaethau mewn peirianneg a gweithgynhyrchu uwch hefyd.

Mae dysgwyr sy'n ymgymryd â phrentisiaeth gradd yn treulio tua 20% o'u hamser yn y brifysgol a'r gweddill gyda'u cyflogwr. Trwy weithio ochr-yn-ochr â gweithwyr profiadol i ennill sgiliau ymarferol a phrofiad, yn ogystal â derbyn hyfforddiant allanol, mae prentisiaid gradd yn gorffen eu cwrs gyda sgiliau a ddysgwyd yn y gweithle, ynghyd â'r wybodaeth lefel uwch sy'n dod gyda chymhwyster gradd.

Ymgymerodd Ben Atkins, Uwch Arbenigwr TG gyda sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Digidol Cymru â phrentisiaeth gradd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac mae o’r farn bod y “sgiliau amhrisiadwy” a enillwyd trwy’r rhaglen wedi’i alluogi i symud ymlaen trwy’r sefydliad.

Ehangu Mynediad

Trwy gynnig llwybr newydd at ennill gradd, mae prentisiaethau gradd yn chwarae rhan hanfodol mewn cynnig cyfleoedd i'r rheiny sydd eisoes yn y gweithlu, neu sydd â chyfrifoldebau sy'n gwneud astudio llawn-amser yn heriol.

A woman working at a computer with two screens

Mae yna dystiolaeth dda i awgrymu bod prentisiaethau gradd yn fwy effeithiol nag astudiaethau israddedig traddodiadol o ran cynnig cyfleoedd i bobl o ardaloedd difreintiedig i astudio ar lefel gradd, ac mae prentisiaethau gradd yn dod yn llwybr deniadol i'r rhai nad ydynt efallai wedi dilyn y pynciau hyn o'r blaen.

Ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, manteisiodd mwy o fenywod ar brentisiaethau gradd digidol yn y maes hwn na thrwy recriwtio traddodiadol, gan gyfrif am 21% o garfan blwyddyn gyntaf prentisiaeth gradd, o gymharu â 13% o'r garfan israddedig draddodiadol mewn cyfrifiadureg.

Yn yr un modd, mae’r Alban wedi gweld twf yn nifer y menywod sy’n gwneud prentisiaethau graddedig mewn fframweithiau STEM, gyda chyfranogiad yn uwch na’r cyfartaledd ar draws holl sefydliadau addysg uwch.    

Sgiliau ar gyfer y dyfodol

Yn ogystal â darparu cyfleoedd dysgu mwy hyblyg i ddysgwyr, mae prentisiaethau gradd hefyd yn dod â buddion diriaethol i gyflogwyr.

Rydym yn gweld twf yn y galw am sgiliau lefel uwch yng Nghymru, a daw hyn ar adeg pan fo awtomeiddio yn debygol o beri crebachu yn y sectorau hynny y mae Cymru yn dibynnu arnynt am gyflogaeth. Mae darparu cyfleoedd i ailsgilio neu uwchsgilio yn gynyddol bwysig, a gwyddom fod busnesau eisiau cefnogaeth gan y sector addysg uwch i adeiladu gweithlu gwydn a pharod i addasu, sy’n gallu cyflawni dros Gymru.

Wrth i Gymru ymateb i’r heriau a ddaw yn sgil newidiadau yn y gweithle, bydd mathau o ddysgu hyblyg megis prentisiaethau gradd yn allweddol i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau a sicrhau bod y sgiliau newydd hynny’n berthnasol.

Dyfodol prentisiaethau gradd

Mae manteision prentisiaethau gradd yn glir, gyda gwerthusiad diweddar yn nodi bod i’r rhaglen y potensial i ehangu cyfranogiad mewn darpariaeth sgiliau lefel uwch, cynyddu symudedd cymdeithasol, gwella cynhyrchiant a chynyddu arloesedd a’r gallu i gystadlu. 

Fodd bynnag, mae mwy o waith i'w wneud o hyd.

Construction site with worker in hi-vis and safety helmet

Mae'r galw am brentisiaethau gradd wedi bod yn tyfu ar draws y DU. Yn Lloegr mae yna 88 o safonau prentisiaeth wedi'u cymeradwyo i'w cyflwyno ar lefel baglor, meistr a hyd yn oed PhD, gyda phynciau ar gael mor amrywiol â phensaernïaeth, economeg a fferylliaeth.  Yn yr Alban mae yna 11 o fframweithiau prentisiaeth i raddedigion.

Er mwyn ateb y galw a chefnogi twf busnesau Cymru yn y dyfodol, mae’n bwysig adeiladu ac ehangu ar lwyddiant y rhaglen prentisiaethau gradd. Mae ein haelodau wedi tynnu sylw at awydd enfawr am brentisiaethau ar lefelau gradd (a lefelau uwch) mewn meysydd fel tirfesureg, gwyddorau bywyd, y gyfraith, arweinyddiaeth a rheolaeth ac adeiladu. 

Dyma pam yr ydym yn argymell ehangu’r rhaglen yng Nghymru i ariannu ystod ehangach o brentisiaethau gradd, gan gynnwys ar lefel Meistr. 

Trwy wneud hynny, gallwn gynorthwyo busnesau i dyfu ac, yn bwysig, darparu cyfleoedd newydd i bobl ennill y sgiliau a’r cymwysterau ar gyfer gyrfa lwyddiannus.