O’i thref enedigol, sef Pen-y-bont ar Ogwr, mae Ocean yn cyfuno creadigrwydd â'i dawn am fusnes i gyflwyno prosiectau sy'n amrywio o lyfrau plant i serameg wedi'u dylunio’n unigol.

Mae ei chreadigaethau diweddaraf ar gyfer y llyfrau Archie, My Dinosaur Friend ac It’s a Big World Bartholomew, a gyhoeddwyd gan Jellycat, yn arddangos ei dawn i ddod â straeon yn fyw a thanio dychymyg plant.

“Un o’r modiwlau a gafodd yr effaith fwyaf arnaf i oedd Darlunio Naratif, lle cefais gyfle i ysgrifennu a darlunio fy llyfr plant fy hun. Arweiniodd fy nhiwtoriaid fi trwy bob cam, o ymchwil i greu llyfr ffug, a gadarnhaodd fy angerdd am y grefft a chadarnhau cyfeiriad fy ngyrfa. 

"Roedd y modiwl Marchnata’r un mor werthfawr, gan ddysgu pwysigrwydd allgymorth cleientiaid a hunan-hyrwyddo i mi, sgiliau sydd y un mor hanfodol â chreadigrwydd wrth weithio’n llawrydd, ac un rwy’n dal i ddibynnu ar y rhain heddiw!”