Mae Jimmy yn actor, awdur a chyfarwyddwr dosbarth gweithiol o Warrington. Ar ôl graddio o CCDC yn 2011 gyda BA mewn Actio, aeth ymlaen i ffurfio Not Too Tame gyda charfan o artistiaid dosbarth gweithiol.

Mae ei waith yn canolbwyntio ar gynulleidfaoedd, yn benodol creu gwaith sy’n denu, yn ennyn diddordeb ac yn diddanu’r dosbarth gweithiol a’r rhai sy’n teimlo nad yw theatr ar eu cyfer nhw.

“Gyda’r hyfforddiant a gefais i a thrwy greu fy nghwmni theatr Not Too Tame, dwi wedi dod o hyd i ffordd o wneud dau beth. Un yw creu gwaith i bobl sy'n teimlo nad yw theatr ar eu cyfer nhw - boed hynny'r ffurf gelfyddydol neu'r adeilad ei hun. Y llall yw dangos y gall fod yn yrfa hyfyw.”