
Horizun
Mae Horizun, a sefydlwyd gan AbdulAlim U-K, un o raddedigion Prifysgol Caerdydd, yn llwyfan trochi sy'n defnyddio technoleg realiti estynedig ac afatarau wedi'u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) i ddarparu asesiadau gyrfa ac efelychiadau swydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr coleg ac israddedigion.
Mae'r profiad unigryw yn llenwi'r bwlch mewn cyfarwyddyd gyrfa traddodiadol, gan ddarparu senarios difyr, ymarferol, byd go-iawn ar gyfer dewisiadau gyrfa mwy gwybodus.
Mae AbdulAlim wedi graddio’n ddiweddar o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd lle’r oedd yn astudio ar gyfer MSc mewn Cyfrifiadura. Yn 2024 enillodd y wobr gyntaf yng ‘Ngwobr Syniad Ysbrydoledig’ Prifysgol Caerdydd.
Mae'r prosiect eisoes wedi ennyn llawer o ddiddordeb ar ôl ennill tair cystadleuaeth; y ddiweddaraf oedd y Syniad Ysbrydoledig a ffefryn y Gynulleidfa yng Ngwobrau Busnesau Newydd y Gwanwyn.
“Mae tîm menter myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn allweddol yn natblygiad fy mhrosiect - o drefnu sesiynau hyfforddiant sydd wedi rhoi sawl cyfle i mi ymarfer cynnig syniadau, i gyfarfodydd â mentoriaid busnes a digwyddiadau atgyfeirio.”