
Bowla - A Bowl With A Roll
Sefydlwyd Bowla - A Bowl With a Roll gan Hannah Worth, sydd â gradd mewn Arweinyddiaeth a Rheoli Peirianneg o Brifysgol Abertawe, gyda'i thad yn 2023.
Torth o fara siâp het fowler yw Bowla, lle mae'r gwaelod yn gwahanu o'r top i greu powlen fara, y gellir ei llenwi ag unrhyw lenwad, a rholyn fara i fopio'r cyfan.
Ar hyn o bryd mae Bowla yn gweithredu o Farchnad Dan-do Abertawe, sef eu prif bwynt gwerthu. Ceir ffrydiau incwm eraill trwy siop ar-lein - Bowla Postals ac arlwyo ar gyfer ciniawau corfforaethol.
Mae Bowla wedi ennill gwobrau, ac mae gan ei sylfaenwyr uchelgeisiau mawr ar gyfer y cwmni, gyda’r nod o ddod yn frand ledled y DU, ehangu eu harlwyo corfforaethol i stadia ac, yn y pen draw, symud i archfarchnadoedd.
Gweithiodd Hannah yn agos gyda'r tîm menter ym Mhrifysgol Abertawe i sefydlu a thyfu'r busnes.
“Ni fyddai fy musnes lle y mae heddiw oni bai am gefnogaeth tîm menter y brifysgol. Roedd yr arweiniad a ddarparwyd a mynediad i’w rhwydweithiau a'u cyllid yn wych. Cefais gyllid a mentor busnes gydol yr amser roeddwn wedi cofrestru yn y brifysgol; rwy’n dal mewn cysylltiad â fy mentor hyd heddiw."