Mae’r straeon hyn yn cynnig cipolwg ar brofiadau amrywiol dysgwyr o bob rhan o Gymru ac yn tanlinellu manteision pellgyrhaeddol addysg prifysgol.

Mae'r cyhoeddiad yn rhan o ymgyrch Trawsnewid Bywydau sy’n rhoi sylw i straeon bywyd go iawn am fyfyrwyr a graddedigion y mae eu teithiau addysgol wedi’u grymuso i oresgyn heriau, cyflawni eu huchelgeisiau a thrawsnewid eu bywydau.

Lansiwyd y casgliad yn swyddogol heddiw mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn adeilad y Pierhead ar Ystâd y Senedd i ddathlu a thynnu sylw at yr unigolion ysbrydoledig sydd wedi rhannu eu straeon gyda Phrifysgolion Cymru drwy gydol yr ymgyrch.   

Clywodd y rhai a fynychodd y digwyddiad gan ddau a gyfranogodd yn yr ymgyrch – Antigone Cooper a Ryan Eddowes – a rannodd eu teithiau personol, gan amlinellu sut y bu i’w hamser yn y brifysgol eu helpu i oresgyn adfyd a dilyn eu breuddwydion.

  • Cymerodd Antigone Cooper lwybr ychydig yn anarferol i'w gradd, ar ôl treulio rhan sylweddol o'i harddegau mewn gofal. Mae hi nawr yn defnyddio ei phrofiad o oresgyn heriau personol i adeiladu gyrfa mewn adnoddau dynol.
    “Os nad ydych chi'n mynd i'r brifysgol, mae cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwch chi fynd, ac yn enwedig fel rhywun sy'n gadael gofal dydych chi'n ddim ond ystadegyn y rhan fwyaf o'r amser.”
  • Ganed Ryan Eddowes gyda chyflwr Bilateral Congenital Talipes Equinovarus, a elwir hefyd yn “draed clwb”. Fe wnaeth astudio Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor alluogi Ryan i ddilyn ei angerdd am fyd natur, gan deithio’n rhyngwladol i ymchwilio a ffilmio bywyd gwyllt.
    I mi, mae profiad prifysgol yn llwybr o hunan-ddarganfod, meithrin annibyniaeth, mwynhau eiliadau bythgofiadwy a chreu straeon gydol oes i'w hadrodd.

Wrth siarad yn y digwyddiad, meddai Vikki Howells ASC, y Gweinidog dros Addysg Bellach ac Addysg Uwch:

“Gall mynd i’r brifysgol fod yn gyfnod trawsnewidiol, gan agor drysau a chyfleoedd a all newid bywydau dysgwyr yng Nghymru. 

“Mae’r ymgyrch Trawsnewid Bywydau yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae addysg uwch wedi’i chael ar fywydau pobl; mae’n taflu goleuni ar yr hyn y gall prifysgolion Cymru ei gynnig a’r gwahanol lwybrau a chyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr.  Rwy'n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn ysbrydoli dysgwyr eraill yng Nghymru i wneud addysg uwch yn gam nesaf iddynt.

Meddai Hefin David ASC, noddwr y digwyddiad heddiw:

“Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Brifysgolion, mae’n bleser gennyf noddi’r digwyddiad hwn yn y Pierhead.

“Fel cyn-ddarlithydd prifysgol fy hun, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun sut y gall y profiad addysg uwch newid bywyd unigolyn er gwell, yn enwedig os ydynt yn cyrraedd y brifysgol o gefndir anhraddodiadol.

“Mae ymgyrch Trawsnewid Bywydau Prifysgolion Cymru yn fenter wych sy’n darparu enghreifftiau go iawn o bŵer trawsnewidiol addysg uwch.”

Maeddai’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae’r casgliad hwn, sy’n rhan o’n hymgyrch Trawsnewid Bywydau, yn dangos effaith ddofn ac yn aml drawsnewidiol addysg prifysgol, ar unigolion ac ar y cymunedau y maent yn dychwelyd iddynt.

"Ar adeg pan fo Cymru’n wynebu heriau sylweddol o ran cyfranogiad - yn enwedig ymhlith y rheiny o gefndiroedd difreintiedig - mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddangos y potensial i newid bywydau y gall mynd i brifysgol ei gynnig.

"Mae’r ymgyrch hon yn dyst i wydnwch, ymroddiad ac angerdd y rhai sy’n dilyn addysg uwch, ac i bŵer ein prifysgolion fel catalyddion ar gyfer newid cadarnhaol mewn cymdeithas.”

Daw’r ymgyrch Trawsnewid Bywydau ar adeg dyngedfennol, wrth i Gymru fynd i’r afael â chyfraddau cyfranogiad addysg uwch sy’n dirywio. Drwy dynnu sylw at deithiau anhygoel dysgwyr Cymreig, mae Prifysgolion Cymru’n gobeithio ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddilyn addysg uwch a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i newid bywydau.