Trawsnewid Bywydau - Carrie Power
Ar ôl gwasanaethu ym Myddin Prydain am nifer o flynyddoedd, dechreuodd Carrie Power gwestiynu ei llwybr gyrfa a phenderfynodd wneud cais am le ym Mhrifysgol Abertawe i astudio ieithoedd Modern. Mae hi bellach wedi graddio ac mae'n paratoi i gael ei hyfforddi fel athrawes Almaeneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Rhydychen.
Nid oedd Carrie Power erioed wedi ystyried mynd i’r brifysgol yn ystod ei blynyddoedd ysgol. Doedd neb yn ei theulu wedi mynychu'r brifysgol, ac arweiniodd hynny at adael yr ysgol heb ddeall beth oedd ei holl opsiynau.
Yn 19 oed, ymunodd Carrie â'r Fyddin Brydeinig, gan hyfforddi i ddechrau fel Mecanydd Cerbydau ac yn ddiweddarach gwasanaethu fel Technegydd Meddygol yn Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin, cyn gweithio fel Trefnydd Trafnidiaeth i'r Fyddin. Nid oedd hyn yn cynnig unrhyw lwybrau dilyniant a dechreuodd Carrie gwestiynu ei dewis o ran gyrfa.
Penderfynodd fentro a gwneud cais i brifysgol, gan ennill lle ym Mhrifysgol Abertawe i astudio Ieithoedd Modern. Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol daeth hefyd o hyd i le ar dîm nofio'r Brifysgol, gan ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau Meistri Prydain yn ddiweddar.
Mae Carrie bellach yn paratoi ar gyfer cael ei hyfforddi fel athrawes Almaeneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac mae’n edrych ymlaen at rannu ei dealltwriaeth newydd o addysg uwch a’i photensial gyda’r genhedlaeth nesaf.