Mae grwpiau llywio RhAC yn cynnwys pob un o’r naw prifysgol yng Nghymru, a’u nod yw cefnogi cydweithredu ym maes ymchwil ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar gryfderau craidd. O fewn y meysydd hyn, bydd grwpiau llywio RhAC yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd lle gallant, mewn partneriaeth, fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

Mae’r grŵp llywio Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (gan gynnwys lled-ddargludyddion) yn canolbwyntio ar ddulliau amlddisgyblaethol o ymdrin â heriau deunyddiau a gweithgynhyrchu, gan archwilio cyfleoedd cydweithredol yn effeithiol a darparu cydgysylltu gweithredol ymhlith prifysgolion Cymru mewn ymchwil ac arloesedd ym maes deunyddiau a gweithgynhyrchu. 

Ein haelodau

Yr Athro Andrew Evans, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Nigel Copner, Prifysgol Aberystwyth
Dr Michael Rushton, Prifysgol Bangor (cyd-gadeirydd)
Yr Athro Jarred Evans, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Yr Athro Anthony Bennett, Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Hans Seinz, Prifysgol Abertawe (cyd-gadeirydd)
Yr Athro Cinzia Giannetti, Prifysgol Abertawe
Dr Helen Lockett, Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Jon Maddy, Prifysgol De Cymru
Yr Athro John Kinuthia, Prifysgol De Cymru
Richard Morgan, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Dr Andrew Killen, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Yr Athro Alison McMillan, Prifysgol Wrecsam
Dr Rob Bolam, Prifysgol Wrecsam