Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, wedi recordio dau fideo i gynorthwyo â recriwtio myfyrwyr rhyngwladol.

Mae'r cyntaf yn cynnig neges gyffredinol o groeso i Gymru, gan amlygu gwerth diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd myfyrwyr rhyngwladol, ynghyd ag ansawdd sefydliadau Cymru a'r cyfleoedd a gynigir drwy lwybr graddedigion.

Mae'r ail fideo yn benodol ar gyfer India ac yn cefnogi ymgyrch ‘Astudio yng Nghymru' ddiweddaraf Cymru Fyd-eang sydd ar hyn o bryd yn cael ei chynnal yn Delhi, Mumbai, Bangalore a Hyderabad. Eleni hefyd yw blwyddyn 'Cymru yn India' Llywodraeth Cymru - rhaglen sy'n dathlu'r partneriaethau cydfuddiannol rhwng Cymru ac India, gan gynnwys ar draws addysg drydyddol ac ymchwil.

Mae Llywodraeth Cymru a’r sector addysg uwch, sydd ill dau’n bartneriaid allweddol ym menter Cymru Fyd-eang, yn gwerthfawrogi’r amrywioldeb a’r cyfoeth diwylliannol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu cynnig i gampysau a chymunedau yng Nghymru. Yn ogystal â chynhyrchu dros £600 miliwn mewn enillion allforio – tua 12% o holl allforion sector gwasanaethau Cymru, mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod yn llysgenhadon gydol oes dros Gymru, gan feithrin cysylltiadau academaidd a busnes a chefnogi cysylltiadau diplomyddol hirdymor.