Wrth galon y cyhoeddiad mae cydnabyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu Cymru: o newid hinsawdd i’r angen i gryfhau ein heconomi, o ddatblygiadau technolegol i newid demograffig.

Gall prifysgolion fod ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â’r heriau hyn trwy’r gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi busnesau lleol, cyflawni ymchwil ac arloesedd sy’n creu effaith sylweddol a gweithredu fel angorau economaidd ledled Cymru.

Er mwyn helpu i wneud gwahaniaeth i Gymru, gyda phrifysgolion mewn sefyllfa i helpu â mynd i’r afael â’r heriau mawr sydd o’n blaenau, dylai Llywodraeth nesaf y DU:

  • ei gwneud yn haws i’r pedair gwlad gydweithio
  • cydnabod bod gan wahanol leoedd wahanol anghenion, gofynion o ran sgiliau ac economïau lleol
  • buddsoddi yng Nghymru trwy ddatganoli’r cyllido a ddaw yn sgil colli arian o gronfeydd Strwythurol yr UE
  • gweithredu i sicrhau lle Cymru yn y byd

Mae ein blaenoriaethau – a nodir yn 'Adeiladu uchelgais: blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf y DU i ddatgloi potensial Cymru' – yn darparu camau diriaethol y gellid eu cymryd a fyddai o fudd i bobl a lleoedd yng Nghymru.