Cynhaliwyd y Digwyddiad ar gyfer Llofnodwr Ymrwymiad Technegwyr yng Nghaerdydd ddydd Mercher 15fed Mai, y tro cyntaf i'r digwyddiad ddod i Gymru. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Techniquest, gan ddwyn ynghyd arweinwyr 115 o sefydliadau sydd wedi llofnodi’r cytundeb i rannu arfer gorau’r diwydiant, clywed y diweddaraf o’r sector a rhwydweithio gyda chydweithwyr technegol o bob rhan o’r DU.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys derbyniad min-nos a gynhaliwyd ar y cyd gan Ymrwymiad Technegwyr a Rhwydwaith Arloesi Cymru (RhAC), lle rhannodd RhAC fideo i ddathlu’r gweithlu technegol sy’n angenrheidiol o fewn addysg uwch ac ymchwil yng Nghymru. Roedd y derbyniad min-nos yn cynnwys y siaradwyr canlynol:

  • Dr Lewis Dean a David Noakes, Pennaeth Rhwydwaith Arloesi Cymru a Chadeirydd Rhwydwaith Technegwyr RhAC 
  • Abigail Phillips, Pennaeth Arloesedd Llywodraeth Cymru  
  • Yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd 
  • Mark Dabee Saltmarsh, Technegydd Arddangoswr, Prifysgol Metropolitan Caerdydd 

Mae’r Ymrwymiad Technegwyr yn fenter gan brifysgolion a sefydliadau ymchwil a gynhelir gan Sefydliad Sgiliau a Strategaeth Dechnegol y DU. Nod yr Ymrwymiad yw sicrhau gwelededd, cydnabyddiaeth, datblygiad gyrfa a chynaladwyedd i dechnegwyr sy'n gweithio mewn addysg uwch ac ymchwil, ar draws pob disgyblaeth.

Siaradodd Dr Lewis Dean, pennaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru, yn y digwyddiad am Rwydwaith Technegwyr RhAC a chyfraniad hanfodol technegwyr mewn addysg uwch yng Nghymru. Meddai:

“Mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru’n hwyluso cydweithio ar draws prifysgolion Cymru i geisio adeiladu partneriaethau ymchwil ac arloesedd. Mae technegwyr yn rhan annatod o’r gwaith hwnnw ac rydym yn falch iawn o allu dathlu’r gwaith y maent yn ei wneud ar draws ein holl brifysgolion.”

Meddai’r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe:

“Rydym yn hynod ffodus yng Nghymru i fod â thechnegwyr mor ddawnus  sy’n cefnogi ehangder gweithgaredd addysg uwch.

“Mae technegwyr yn chwarae rhan mor allweddol mewn ymchwil ac arloesedd. Maent yn cynorthwyo â dysgu myfyrwyr, yn cefnogi ymchwil ar gyfer addysg ffurfiol ac mewn astudiaethau doethurol, ac mae ein technegwyr yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi allgymorth a chenhadaeth ddinesig.

Rwy'n falch iawn ein bod yn cydnabod cyfraniad hanfodol ein cymuned dechnegol trwy'r dathliadau hyn heddiw.”