Mae grŵp llywio Rhwydwaith y Technegwyr wedi'i sefydlu i gefnogi technegwyr ar draws sefydliadau Cymru (a chynorthwyo sefydliadau yng Nghymru i gefnogi eu technegwyr). Mae’r grŵp llywio yn dwyn ynghyd arbenigedd ar draws wyth prifysgol yng Nghymru.
Mae Rhwydwaith y Technegwyr yn canolbwyntio ar alluogi arfer gorau a chydweithio i gryfhau'r seilwaith ymchwil yng Nghymru yn ogystal â darparu fforwm a gofod i ysgogi cydweithredu a rhannu sgiliau rhwng sefydliadau.
Mae grŵp llywio Rhwydwaith y Technegwyr yn adeiladu cymuned dechnegol ledled Cymru. Bydd y grŵp llywio’n dynodi cyfleoedd a gweithgareddau ar draws yr holl sefydliadau yng Nghymru a all gefnogi'r gymuned dechnegol yng Nghymru. Mae gweithgareddau a chyfleoedd dysgu o fewn Rhwydwaith y Technegwyr yn gydweithredol ac yn dangos sut y gall hyn gefnogi'r seilwaith ymchwil yng Nghymru.