Cymru Fyd-eang yn rhyddhau fideo newydd yn arddangos rhagolygon rhyngwladol colegau addysg bellach
Mae Cymru Fyd-eang wedi rhyddhau fideo newydd sy'n arddangos rhagolygon rhyngwladol colegau addysg bellach Cymru a manteision partneriaethau a symudedd rhyngwladol i ddysgwyr, staff a sefydliadau.
10 September 2023
Mae'r fideo yn cynnwys cyfweliadau â staff o amrywiaeth o golegau addysg bellach Cymru. Mae’n amlygu’r ystod o gyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael i fyfyrwyr yng ngholegau Cymru, gan gynnwys trefniadau cyfnewid myfyrwyr.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru Fyd-eang wedi bod yn gweithio’n agos gyda cholegau addysg bellach Cymru a CholegauCymru i gefnogi eu gweithgareddau a’u partneriaethau rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys darparu cyllid ar gyfer prosiectau a mentrau rhyngwladol, yn ogystal â hwyluso dirprwyaethau.
Wrth siarad am y fideo newydd, dywedodd Dr Andrew Cornish, Prif Weithredwr a Phennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion:
“Mae gan Gymru sector addysg bellach a sgiliau sy’n ffynnu, gyda phedwar o’n colegau’n recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, a diddordeb ar draws y sector mewn adeiladu partneriaethau ar gyfer cydweithio. Mae'r fideo newydd hwn yn amlygu rhagolygon byd-eang colegau a manteision partneriaethau rhyngwladol a symudedd dysgwyr.
“Rwy’n falch o weld deilliannau parhaus gwaith Cymru Fyd-eang yn cefnogi colegau addysg bellach Cymru i ddatblygu eu gweithgareddau a’u partneriaethau rhyngwladol. Rydym am sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru’n cael y cyfle i brofi manteision dysgu rhyngwladol, boed hynny drwy deithio dramor neu elwa ar bartneriaethau."
Gallwch wylio'r fideo isod:
Manteision partneriaethau rhyngwladol a symudedd myfyrwyr
Mae partneriaethau rhyngwladol a symudedd myfyrwyr yn cynnig ystod o fanteision i fyfyrwyr a cholegau.
I ddysgwyr, gall profiadau rhyngwladol helpu i:
- Ehangu eu gorwelion a dysgu am ddiwylliannau newydd
- Datblygu eu sgiliau iaith
- Ennill profiad rhyngwladol gwerthfawr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol
- Adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau rhyngwladol
I golegau, gall profiadau rhyngwladol helpu i:
- Codi eu proffil a'u henw da ar y llwyfan rhyngwladol
- Denu myfyrwyr a staff rhyngwladol
- Datblygu adnoddau addysgu a dysgu newydd
- Gwella profiadau pob myfyriwr