Canolfan Ymyriad Cynnar ar Sail Tystiolaeth
Nod Canolfan Ymyriad Cynnar ar Sail Tystiolaeth Prifysgol Bangor yw ceisio gwella bywydau plant drwy hyrwyddo dull cadarnhaol o fagu plant a lleihau nifer yr achosion o rieni sy’n niweidio a cham-drin eu plant.
Nod y Ganolfan yw darparu cyfraniadau defnyddiol at y sail dystiolaeth ar gyfer adnoddau ac ymyriadau, sy'n cynorthwyo ag ymyriad cynnar i blant a theuluoedd. Mae hyn yn galluogi proffesiynwyr iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i wneud dewisiadau gwybodus am yr hyn sy'n gweithio, wrth fynd ati i helpu teuluoedd.
Mae prif ffocws y fenter ar deuluoedd sydd dan anfantais gymdeithasol, gan werthuso rhaglenni sy’n cael eu gweithredu gan ddarparwyr gwasanaethau rheng flaen ym meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â'r sector gwirfoddol.