“Rydym yn croesawu canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023, sydd yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd pwysicaf y gall myfyrwyr sy'n dod i ddiwedd eu hastudiaethau rannu eu barn am eu profiad prifysgol.

“Mae darparu profiad cadarnhaol sy’n cynorthwyo myfyrwyr i ffynnu yn un o brif flaenoriaethau ein haelodau. Rwy’n falch o weld prifysgolion Cymru yn perfformio’n dda o ran ansawdd cyrsiau, gyda chryfderau penodol wedi’u hamlygu mewn meysydd allweddol megis asesu ac adborth a llais myfyrwyr. Mae hyn yn dyst i ymrwymiad ac ymroddiad ein sefydliadau i addasu, arloesi a chefnogi myfyrwyr drwy gydol eu cyfnod yn y brifysgol.

“Mae hefyd yn wych gweld y canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y cwestiwn am undebau myfyrwyr, sy’n tynnu sylw at y gwaith pwysig y mae ein hundebau myfyrwyr addysg uwch yn ei wneud yma yng Nghymru.

“Yng ngoleuni’r pandemig, mae’r myfyrwyr sy’n gadael y brifysgol eleni wedi wynebu set unigryw o heriau yn ystod eu hastudiaethau, a gallant fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni, gan brofi eu bod yn wydn, yn ymroddedig ac yn hyblyg yn wyneb adfyd.

“Rydym yn gwerthfawrogi’r adborth a ddarparwyd gan yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a fydd o gymorth i sefydliadau barhau i addasu a gwneud gwelliannau mewn meysydd allweddol o ddysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr.

“Bydd prifysgolion Cymru’n parhau i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mwynhau’r profiad prifysgol gorau posibl sy’n eu paratoi ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol ac yn eu helpu i gyflawni eu potensial.”