“Rydym wrth ein bodd bod Simon wedi cael ei gyhoeddi fel yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y Comisiwn newydd. Mae wedi cydweithio â phrifysgolion yn unigol ac ar y cyd, gan gynnwys drwy ddatblygu cynigion i gynorthwyo â llesiant myfyrwyr ar draws y sector ôl-16, ac mae ei gydweithwyr yn gwerthfawrogi ei ddull adeiladol o weithredu. 

“Os yw’r Comisiwn am sicrhau manteision gwirioneddol i Gymru, a rhoi cymorth i ddarparwyr i wneud hynny, bydd yr ymagwedd gydweithredol hon sy’n seiliedig ar bartneriaeth yn hanfodol.”