Mae Gwobrau Cychwyn Busnes yn fenter ar y cyd rhwng sylfaenwyr Gwobrau Entrepreneuriaeth Prydain - rhaglen genedlaethol sefydledig sy’n derbyn 5,000 o geisiadau bob blwyddyn - a Gwobrau Cychwyn Busnes Cymru, sef yr unig wobrau cenedlaethol a rhanbarthol sy’n dathlu busnesau newydd yn y DU ar hyn o bryd. 

Mae’r Gwobrau’n cydnabod cyflawniadau’r unigolion anhygoel hynny sydd wedi cael syniad gwych, wedi sylwi ar y cyfle ac wedi mentro i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd. 

Mae Prifysgolion Cymru yn noddi'r categori Cychwyn Busnes i Raddedigion yng Nghymru am y bumed flwyddyn yn olynol. Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw fusnes newydd yng Nghymru sydd wedi’i sefydlu gan unigolyn (neu unigolion) sydd wedi graddio o brifysgol yng Nghymru yn y tair blynedd diwethaf. Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys busnesau sy'n gweithio ym meysydd cludiant a logisteg yn y gofod, marchnata fideo, dysgu iaith, a meddalwedd arlwyo.  

Meddai Kieron Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru ac aelod o’r panel beirniaid ar gyfer y Gwobrau: 

“Rwy’n falch iawn bod Prifysgolion Cymru unwaith eto yn noddi’r Wobr Cychwyn Busnes i Raddedigion – categori sy’n bwysig o ran cydnabod y cyfraniad y mae busnesau dan arweiniad graddedigion yn ei wneud at greu economi ffyniannus ac amrywiol.  

“Cymru sydd â’r gyfradd uchaf y pen o fusnesau newydd sy’n cael eu sefydlu gan raddedigion yn y DU, ac mae ein prifysgolion yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi ac yn meithrin myfyrwyr a graddedigion wrth iddynt sefydlu busnesau newydd.

“Mae’r wobr hon yn cynnig cyfle gwych i ddathlu’r dalent entrepreneuraidd sylweddol sy’n dod allan o brifysgolion Cymru. Yn y pum mlynedd rydym wedi bod yn noddi’r categori hwn, mae cyflawniadau ac ymroddiad yr enillwyr a’r rhai a enwebwyd bob amser wedi creu argraff arnaf – ac edrychaf ymlaen at weld y busnesau newydd arloesol sydd gan wobrau eleni i’w cynnig.”