Mae’r data o 30ain Mehefin 2022, sef dyddiad olaf UCAS i wneud cais am hyd at bum cwrs ar yr un pryd, yn dangos y canlynol: 

  • Y nifer uchaf erioed (82,060) o ymgeiswyr i brifysgolion yng Nghymru  
  • Y cynnydd mwyaf yn nifer yr ymgeiswyr (3.7%) o blith gwledydd y DU 
  • Y nifer uchaf erioed (23,500) o ymgeiswyr o Gymru 
  • Cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr rhyngwladol (12,500) i brifysgolion yng Nghymru 
  • Y gyfran uchaf erioed o bobl ifanc 18 oed o Gymru’n gwneud cais am le mewn prifysgol (38.1%) 

Meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, wrth wneud sylwadau ar y data diweddaraf hwn gan UCAS:  

“Rwy’n falch iawn o weld ffigurau heddiw sy’n dangos bod cyfraddau ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru’n parhau i godi, gyda’n sefydliadau’n gweld y cynnydd mwyaf o blith gwledydd y DU. Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnig unigryw a wneir i fyfyrwyr gan brifysgolion yng Nghymru, ynghyd â'r croeso cynnes a'r profiad rhagorol y gall pob myfyriwr ddisgwyl ei dderbyn yn ein sefydliadau. 

“Mae gan brifysgolion ran hanfodol i’w chwarae yn ffyniant economaidd a chymdeithasol Cymru yn y dyfodol, a bydd angen pobl â sgiliau lefel gradd arnom i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu fel cymdeithas.  Yn y cyd-destun hwn mae’n arbennig o galonogol gweld bod y nifer uchaf erioed o bobl ifanc 18 oed yng Nghymru’n parhau i osod gwerth ar y manteision a’r cyfleoedd y mae addysg prifysgol yn eu cynnig. 

“Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau rhyngwladol, sydd i’w groesawu. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn chwarae rhan amhrisiadwy o ran creu amrywioldeb a rhyngwladoli ein campysau a’n cymunedau. 

“Mae ein myfyrwyr yn rhan bwysig a gwerthfawr o’n cymunedau ledled Cymru, a gall y rheiny sy’n ymuno â ni’r hydref hwn fod yn hyderus y bydd prifysgolion Cymru’n parhau i ddarparu cyrsiau gwerth chweil o ansawdd uchel i’w helpu i gyflawni eu potensial.”