• Mae prifysgolion Cymru’n arwain y DU o ran cyfran yr ymchwil y mae ei effaith yn cael ei hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu’n arwain y byd
  • Derbyniodd 89% o ymchwil Cymru 3 seren (rhagorol yn rhyngwladol) neu 4 (arwain y byd) am ei effaith
  • Mae perfformiad Cymru’n gwella ar draws pob maes o ran cyfran yr ymchwil a ystyrir yn gymwys i dderbyn 3 neu 4 seren

Yn yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws y DU gyfan, gwellodd perfformiad Cymru yn gyffredinol, ac ar draws pob maes o ran cyfran yr ymchwil a farnwyd yn 3 a 4 seren.

Perfformiodd Cymru'n arbennig o dda o ran effaith, gydag 89% o ymchwil Cymru yn cael ei ystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu'n arwain y byd. Mae hyn yn uwch na chyfran y DU ac, ymhlith gwledydd y DU, mae’n gydradd uchaf ochr-yn-ochr â Gogledd Iwerddon. 

Mae’r canlyniadau’n dangos perfformiad cryf gan brifysgolion Cymru ar draws ystod eang o bynciau, gan gynnwys:

  • Proffesiynau Cysylltiedig ag Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth
  • Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth
  • Systemau Daear a Gwyddorau Amgylcheddol
  • Pensaernïaeth, yr Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio
  • Archaeoleg
  • Addysg
  • Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth
  • Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
  • Cyfathrebu, Astudiaethau Diwylliannol a'r Cyfryngau, Rheolaeth Llyfrgell a Gwybodaeth

Wrth wneud sylwadau ar ganlyniadau heddiw, meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae prifysgolion Cymru’n cynnal ymchwil o ansawdd uchel ar draws ystod o feysydd pwnc – ac mae canlyniadau REF heddiw yn dangos bod yr ymchwil hwn yn cael effaith. Mae ein prifysgolion wedi profi eu gallu i fanteisio ar y gwaith a wnânt yn effeithlon a sicrhau buddion diriaethol i gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.

“Mae partneriaeth a chydweithio wrth galon llwyddiant ymchwil Cymru. Bydd rhaglenni fel Cymru Fyd-eang yn rhoi cyfleoedd i ni adeiladu ar y canlyniadau hyn, gan gryfhau partneriaethau rhyngwladol i gynnal sector ymchwil bywiog â chysylltiadau rhyngwladol sy’n cyflawni dros Gymru nawr ac yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesedd Cymru:

“Mae ymchwil ac arloesedd yn gwneud cyfraniadau hanfodol i’r economi ac i gymdeithas, ac mae ein prifysgolion yn ganolog yn hyn o beth. Rwy’n croesawu cyhoeddi canlyniadau REF heddiw sy’n tynnu sylw at holl gryfderau amrywiol ein prifysgolion o ran ymchwil, yn ogystal â’r ffyrdd y maent o fudd i’n cymdeithas a’n heconomi.

“Sefydlwyd Rhwydwaith Arloesedd Cymru yn rhannol i fanteisio ar y cryfderau amrywiol hyn. Bydd hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni adeiladu ar y llwyddiant hwn, cynyddu ymhellach yr effaith gadarnhaol y mae ein hymchwil yn ei chael, a chyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer ymchwil yng Nghymru.

“Elfen allweddol arall o’n hymagwedd at y dyfodol fydd y cymorth parhaus a gynigiwn ar gyfer datblygiad ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, fel y gallwn sicrhau dyfodol ein sylfaen ymchwil a pharhau i ddarparu manteision hirdymor sylweddol i economïau a chymdeithasau ledled Cymru a thu hwnt.”

Yn yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws y DU gyfan, gwellodd perfformiad Cymru yn gyffredinol, ac ar draws pob maes o ran cyfran yr ymchwil a farnwyd yn 3 a 4 seren.

Perfformiodd Cymru'n arbennig o dda o ran effaith, gydag 89% o ymchwil Cymru yn cael ei ystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu'n arwain y byd. Mae hyn yn uwch na chyfran y DU ac, ymhlith gwledydd y DU, mae’n gydradd uchaf ochr-yn-ochr â Gogledd Iwerddon. 

Mae’r canlyniadau’n dangos perfformiad cryf gan brifysgolion Cymru ar draws ystod eang o bynciau, gan gynnwys:

Proffesiynau Cysylltiedig ag Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth Systemau Daear a Gwyddorau Amgylcheddol Pensaernïaeth, yr Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio Archaeoleg Addysg Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Cyfathrebu, Astudiaethau Diwylliannol a'r Cyfryngau, Rheolaeth Llyfrgell a Gwybodaeth