Barod ar gyfer Prifysgol
Mae Barod ar gyfer Prifysgol yn blatfform dwyieithog sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad am ddim i'r rhai sy'n astudio yn ystod y pandemig a thu hwnt. Mae'n dwyn ynghyd gyfoeth o ddeunyddiau a fydd yn helpu myfyrwyr sy'n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf i fod yn 'Barod ar gyfer Prifysgol'.
Dan arweiniad y Brifysgol Agored yng Nghymru, yr adnodd cydweithredol hwn yw'r cyntaf o'i fath yn y DU. Fe'i datblygwyd gan Lywodraeth Cymru a phob un o'r 9 prifysgol yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan Brifysgolion Cymru.
Gyda mwy na 400 o adnoddau, mae Barod ar gyfer Prifysgol yn cynnig cyngor ar sut i osgoi straen yn yr oes ddigidol, awgrymiadau ar ofalgarwch a sgiliau astudio ymarferol fel rheoli amser ac ysgrifennu adroddiadau.
Mae'r porth hawdd ei ddefnyddio hefyd yn darparu gwybodaeth am agweddau penodol o astudiaeth academaidd a mewnwelediad i fywyd myfyrwyr, o deithiau rhithwir o amgylch y campws, a chefnogaeth gan gyfoedion i'r rhai sydd eisoes yn byw mewn llety myfyrwyr, i ragflas o ddarlithoedd a hintiau handi ar gyfer astudio.