Dan arweiniad y Brifysgol Agored yng Nghymru, yr adnodd cydweithredol hwn yw'r cyntaf o'i fath yn y DU. Fe'i datblygwyd gan Lywodraeth Cymru a phob un o'r 9 prifysgol yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan Brifysgolion Cymru.

Gyda mwy na 400 o adnoddau, mae Barod ar gyfer Prifysgol yn cynnig cyngor ar sut i osgoi straen yn yr oes ddigidol, awgrymiadau ar ofalgarwch a sgiliau astudio ymarferol fel rheoli amser ac ysgrifennu adroddiadau.

Mae'r porth hawdd ei ddefnyddio hefyd yn darparu gwybodaeth am agweddau penodol o astudiaeth academaidd a mewnwelediad i fywyd myfyrwyr, o deithiau rhithwir o amgylch y campws, a chefnogaeth gan gyfoedion i'r rhai sydd eisoes yn byw mewn llety myfyrwyr, i ragflas o ddarlithoedd a hintiau handi ar gyfer astudio.

Ewch i Barod ar gyfer Prifysgol