Mae ‘Adeiladu Dyfodol Cymru’ yn amlinellu rhaglen uchelgeisiol ar gyfer y wlad, un lle gall prifysgolion chwarae rhan allweddol.

Mewn byd sy’n newid yn gyflym, nid yw prifysgolion wedi sefyll yn eu hunfan. Mae prifysgolion yn gosod sawl uchelgais allweddol ar gyfer Cymru – gan gynnwys adeiladu rhanbarthau Cymru, datblygu gweithlu sy’n barod ar gyfer y dyfodol, gwlad sy’n gystadleuol yn fyd-eang sy’n edrych tuag allan, a sicrhau Cymru gynaliadwy a gwyrdd – lle gall prifysgolion barhau i ddwyn budd sylweddol i bobl a lleoedd ein gwlad.

Mae ‘Adeiladu Dyfodol Cymru’ yn amlinellu sut gall prifysgolion weithio ar y cyd â’r Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru. Er mwyn cynorthwyo yn hyn o beth, mae’r maniffesto yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud ag: ymchwil ac arloesi, sgiliau, gweithgaredd rhyngwladol, a chyllido cynaliadwy gan gynnwys cyllido parhaus ar gyfer iechyd meddwl a llesiant.

Meddai’r Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu rhai o’r heriau mwyaf cymhleth yn ein hanes diweddar, o addasu i ansefydlogrwydd byd-eang cynyddol a newidiadau demograffig sylweddol, i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd sy’n mynd yn fwyfwy allweddol.

“Bydd ein prifysgolion yn ymateb i’r heriau hyn yn yr unig ffordd y maent yn gwybod sut i wneud hynny: trwy addasu, gweithio gyda’i gilydd, cyflwyno sgiliau i fwy o bobl o bob oed a chefndir, a chynnal ymchwil ac arloesi sy’n arwain y byd.

“Mae prifysgolion Cymru mewn sefyllfa unigryw i gynorthwyo â chyflawni gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y wlad, a thrwy weithio gyda’r Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru, gall prifysgolion fod wrth galon adferiad cenedlaethol, gan helpu i gyflawni uchelgeisiau ac addewid Cymru.

Er gwaethaf yr ansicrwydd sydd ar y gorwel, rydym yn adeiladu prifysgolion cydweithredol, deinamig a chadarn gyda phoblogaeth amrywiol o fyfyrwyr a staff.”