Newidiodd mynd i’r brifysgol fy mywyd yn llwyr
Mae prifysgolion yn sbarduno cyfleoedd a symudedd cymdeithasol ar draws ein holl gymunedau. Dyma Sharon Manning yn rhannu sut y bu i fynd i’r brifysgol yn 43 oed newid ei bywyd a’u galluogi i gael ei swydd ddelfrydol.
14 Tachwedd 2025
Gan i mi adael yr ysgol yn 15 oed heb unrhyw gymwysterau, wnes i byth feddwl y gallwn i gymhwyso fel nyrs.
Fodd bynnag, ar ôl ennill fy NVQ lefel 111 mewn Gofal Allgleifion, roeddwn i'n ffodus iawn i gael fy nerbyn gan Brifysgol Bangor ar eu cwrs Diploma hyfforddiant Nyrsys Oedolion.
O fewn y flwyddyn academaidd gyntaf cefais gynnig cwblhau'r cwrs ar lefel gradd. Y prif ysgogydd dros ennill fy ngradd tra roeddwn i yn y brifysgol oedd fy oedran, byddwn i'n 47 oed pan fyddwn i'n cymhwyso ac roeddwn i'n teimlo bod amser yn fy erbyn i a fy ngyrfa.
Fe wnaeth ennill fy ngradd ganiatáu i mi symud o fy rôl gyntaf fel nyrs staff ar y ward cleifion mewnol i swydd nyrs arbenigol canser yr ysgyfaint. Yna, euthum ymlaen ymhellach i fod yn nyrs arbenigol gynaecoleg/oncoleg/Macmillan gyntaf ein hysbyty.
Dyna, heb amheuaeth, oedd fy swydd ddelfrydol. Cefais gryn lwyddiant yn y rôl hon, a newidiais arferion nyrsio, gan arloesi gwasanaeth 'Rocket Drain' newydd ar gyfer cleifion canser yr ofari sy'n lleihau nifer yr ymweliadau â’r ysbyty ac yn gwella gofal diwedd oes. Rwy'n falch o ddweud bod y driniaeth hon bellach ar gael ar draws tri ysbyty Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru.
Agorodd y rôl hon ddrysau i mi o fewn Macmillan ac roeddwn i'n ffodus iawn i gael fy ngwahodd i siarad mewn dwy o Gynadleddau Blynyddol Macmillan. Ac yn 2017 enillais Wobr Arloesedd Macmillan a Chymrodoriaeth Macmillan, am arloesi’r defnydd o’r Gwasanaeth Rocket Drain.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cefais y teitl Darlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor ac yn 2024, roedd yn anrhydedd cael fy nghyflwyno â MBE am 'wasanaethau i ofal cleifion canser' yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin.
Newidiodd y cyfle i mi fynd i'r brifysgol yn 43 oed fy mywyd yn llwyr. Roedd dod yn nyrs gofrestredig yn caniatáu i mi wneud gwahaniaeth i fywydau cleifion, i wella eu taith canser a'u gofal diwedd oes.
I lawer o bobl, gall mynd i’r brifysgol fod yn llwybr sy’n newid bywyd, yn agor drysau, yn ehangu gorwelion ac yn grymuso unigolion i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae Prifysgolion Cymru am i bawb yng Nghymru gael y cyfle hwn i gyrraedd eu llawn botensial. Dyma pam bod ein maniffesto’n galw ar lywodraeth nesaf Cymru i sefydlu comisiwn annibynnol ar gyfranogiad mewn addysg uwch.
