Nod y DU yw cyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y targed hwn mae angen inni ddefnyddio pethau eraill yn lle tanwyddau ffosil. Fodd bynnag, oherwydd ei bod yn anodd datgarboneiddio rhai diwydiannau yn llawn, rhaid inni hefyd dynnu carbon o’r atmosffer.

Un ffordd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a’u tynnu o’r atmosffer yw drwy dyfu cnydau sy’n cael eu defnyddio fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy, a chyplysu hyn â thechnoleg dal a storio carbon. Gelwir hyn yn fio-ynni gyda dal a storio carbon (BECCS).

Fodd bynnag, mae angen deall mwy am sut mae plannu cnydau biomas lluosflwydd ar raddfa fawr a ddefnyddir ar gyfer BECCS yn effeithio ar yr amgylchedd.

Cynhaliodd y tîm o Brifysgol Aberystwyth astudiaethau hirdymor i sut mae newid defnydd tir o laswelltir i gnydau biomas yn effeithio ar yr amgylchedd. Gwnaethant hefyd astudio effeithiau newid defnydd tir o gnydau biomas yn ôl i laswelltir.

Llywio polisi'r llywodraeth ar sero net

Bu aelodau’r tîm yn gweithio gyda Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU ac adrannau’r llywodraeth i ddylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth a’r ddeddfwriaeth ar rôl cnydau biomas mewn economi carbon isel, y defnydd o dir er mwyn cyrraedd sero net, a sut y dylai’r negeseuon hyn gael eu cyfathrebu.

Mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio ymchwil a chyngor y tîm i wneud y canlynol:

  • llywio’i pholisi tuag at yr amgylchedd
  • deall sut y gall cnydau biomas a defnydd tir helpu i gyrraedd ei thargedau sero net

Cafodd BECCS, fel dull y gellir ei ddefnyddio’n gyflym, ei gynnwys yn Adroddiad Net Sero 2019 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, a gynghorodd y llywodraeth i fod yn fwy uchelgeisiol wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys cael gwared ar nwyon tŷ gwydr a gosod targed sero net. O ganlyniad, y DU oedd yr economi fawr gyntaf i basio allyriadau sero net yn gyfraith.

Mae ymchwil y tîm hefyd wedi cael effaith ar ddiwydiant, gan ddenu buddsoddiad ym maes bio-ynni ac arwain at newidiadau mewn arferion ffermio.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Iain Donnison, yr Athro John Clifton-Brown, Dr Kerrie Farrar a Dr Paul Robson – Prifysgol Aberystwyth

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn