Mae data diwedd cylchred 2021 UCAS yn dangos bod 1,875 o fyfyrwyr rhyngwladol wedi derbyn lle mewn prifysgol yng Nghymru yn ystod y cylchred derbyn presennol - cynnydd o 19% o gymharu â’r llynedd, ac un o'r mwyaf ymhlith gwledydd y DU.

Mae'r ffigur hwn yn rhan o duedd gadarnhaol ehangach, gyda chyfanswm yr ymgeiswyr a dderbyniwyd gan brifysgolion Cymru’n cynyddu 1.5% o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd. Mae hyn yn golygu mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU i weld cynnydd ar y cyfan.

Mae nifer y myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n ymgeisio am le mewn prifysgol wedi cynyddu 6%, gan adlewyrchu'r galw cryf parhaus am addysg uwch ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Cadeirydd Cymru Fyd-eang - partneriaeth ryngwladol rhwng Prifysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru, Y Cyngor Prydeinig yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru:

“Trwy ddod i Gymru, mae myfyrwyr rhyngwladol yn chwarae rhan amhrisiadwy mewn amrywiaethu a rhyngwladoli ein campysau a’n cymunedau ar adeg pan mae cynnal meddylfryd rhyngwladol yn bwysicach nag erioed.

“Yn erbyn cefndir heriau pandemig Covid-19, mae’n galonogol iawn gweld bod nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n ymrestru wedi parhau’n uchel, a bod ceisiadau rhyngwladol wedi cynyddu ledled Cymru. Mae hyn diolch i'r hyblygrwydd a'r dulliau arloesol a ddatblygwyd gan brifysgolion, ynghyd â'r croeso cynnes a'r profiad rhagorol y gall pob myfyriwr ddisgwyl ei dderbyn yn ein sefydliadau.

“Mae Cymru Fyd-eang yn rhoi cyfle i fanteisio ar gryfderau ein prifysgolion tra hefyd yn helpu Cymru i ddiffinio ei rôl ar lwyfan byd-eang. Gyda chefnogaeth barhaus y prosiect, rwy’n hyderus y bydd prifysgolion Cymru yn cadw ar y trywydd iawn i gyflawni eu nod o gynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol i 30,000 erbyn 2030.”

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae’r ffigurau diweddaraf hyn gan UCAS yn dangos bod galw mawr o hyd am addysg uwch yng Nghymru, gyda mwy o bobl ifanc nag erioed o’r blaen yn dewis mynd i’r brifysgol.

“Mae’r profiad o fynd i brifysgol yn cynnig ystod eang o fuddion i fyfyrwyr: nid yn unig o ran eu rhagolygon am gyflogaeth, ond hefyd y cyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol ehangach y mae ein sefydliadau yn eu cynnig. Mae'n wych gweld y nifer uchaf erioed o bobl ifanc yn parhau i osod gwerth ar y cyfleoedd hyn.

“Mae'r ffigurau hyn hefyd yn adlewyrchu'r cyfleoedd unigryw mae prifysgolion yng Nghymru’n eu cynnig i fyfyrwyr, gan gynnwys profiad prifysgol rhagorol, fel yr adlewyrchir yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, a'n cyfraddau dargadwedd sy'n parhau i fod yr uchaf yn y DU.

“Mae ein myfyrwyr yn rhan bwysig a gwerthfawr o'n cymunedau ledled Cymru. Rydym yn dymuno'r gorau i bawb sydd wedi ymuno â'n prifysgolion eleni, o Gymru ac o du hwnt i’n ffiniau."