Mudiad Gogledd Cymru 2025
Mae Mudiad 2025 yn gasgliad o dros 600 o bobl a sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i roi terfyn ar anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol y gellir eu hosgoi ar draws Gogledd Cymru.
Fel partneriaeth sy’n seiliedig ar leoliad sy’n defnyddio dull arweinyddiaeth systemau, mae cenhadaeth ddinesig Prifysgol Wrecsam wedi chwarae rhan alluogi allweddol wrth ddatblygu a hwyluso dysgu a rhwydweithiau 2025 i rannu arfer da ac arloesedd o amgylch rhai o’r heriau allweddol sy’n wynebu partneriaid wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol, megis tlodi bwyd a thanwydd.
Mae’r prosiect eisoes wedi gweld cannoedd o bobl yn cael eu helpu mewn cymunedau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.