‘Ar ran prifysgolion Cymru, hoffwn longyfarch Vaughan Gething AS ar ei benodiad yn Brif Weinidog.

‘Mae ein prifysgolion yn chwarae rhan sylfaenol ar draws ein cymdeithas a’n heconomi yng Nghymru. Fel sefydliadau sydd wedi’u hangori’n lleol, mae prifysgolion yn sbarduno twf economaidd, yn cefnogi ein hysgolion, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus, ac yn darparu ymchwil ac arloesi sydd gyda’r gorau yn y byd.

‘Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Prif Weinidog a’i gydweithwyr i barhau â’r gwaith hwn, gan gefnogi ffyniant i bobl a lleoedd er budd pawb yng Nghymru, a helpu i gyflawni ei uchelgais ar gyfer dyfodol lle mae gan bawb gyfle i lwyddo.’