Mae prifysgolion Cymru yn dod â manteision economaidd sylweddol i Gymru gyfan – gan greu dros £5 biliwn y flwyddyn ar gyfer yr economi a chynnal un o bob 20 o swyddi ledled y wlad. Fodd bynnag, maent hefyd yn cael effaith sylweddol yn lleol, gan weithio ar lawr gwlad i ddiwallu anghenion penodol y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae digwyddiad heddiw wedi’r drefnu gan Rwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru, a’i nod yw arddangos y gwaith y mae prifysgolion yng Nghymru yn ei wneud i helpu â lliniaru tlodi o wahanol fathau - o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd a thlodi bwyd, i weithio gyda grwpiau difreintiedig i wella mynediad at ddiwylliant a'r celfyddydau.

Ddwy flynedd ar ôl  lansio Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig Cymru yn 2021, mae’r digwyddiad yn dangos sut mae gweithgarwch cenhadaeth ddinesig wedi parhau i ddatblygu ledled Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda phrifysgolion yn cydweithio â phartneriaid i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Meddai Lynnette Thomas, Cadeirydd Rhwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru:

Mae gan ein prifysgolion rôl bwysig i’w chwarae mewn cymunedau ledled Cymru, y tu hwnt i’w cylch gorchwyl traddodiadol o ddysgu, addysgu ac ymchwil.

“Mae tlodi yn her gynyddol sy’n wynebu pobol a lleoliadau yng Nghymru. Drwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau, busnesau ac asiantaethau eraill, mae prifysgolion yn cael effaith sylweddol yn y maes hwn, gan ddod o hyd i ddatrysiadau arloesol i heriau a gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau pobl ledled y wlad.

“Mae digwyddiad heddiw yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio a meddwl yn greadigol, ac edrychaf ymlaen at weld beth arall y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.”

Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg:

“Er bod mwy i’w wneud bob amser, rwy’n falch bod sector addysg uwch Cymru yn arwain y ffordd gyda’n Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig.

“Mae gan brifysgolion a sefydliadau addysg uwch rôl hollbwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â thlodi, oherwydd mae ganddynt adnoddau a galluoedd unigryw a all greu effaith sylweddol. Mae'n wych gweld ymrwymiad y sector i hyn.

“Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn annog sefydliadau i ymestyn y tu hwnt i’r campws a sicrhau bod yr arfer da hwn yn parhau, yn datblygu ac yn tyfu mewn pwysigrwydd dros amser.”

Mae un o'r prosiectau sy'n cael ei arddangos yn y digwyddiad heddiw yn disgrifio sut mae Coleg Cerdd a Drama Cymru yn ymgysylltu â chymunedau sydd, yn hanesyddol, wedi profi tlodi o ran mynediad at ddarpariaeth ddiwylliannol. Mae’r Coleg yn cynorthwyo â mynediad i weithgareddau diwylliannol, tra’n trechu tlodi, drwy’r rhwydwaith Credydau Tempo Time, sy’n cyfnewid amser gwirfoddoli am Gredydau Amser i’w gwario ar docynnau ar gyfer sioeau.

Un grŵp i elwa o’r trefniant cydweithredol dinesig hwn yw Windrush Elders Cymru – y byddai llawer ohonynt yn gweld cost tocynnau yn rhwystr – sydd wedi defnyddio Credydau Amser i gael mynediad at amrywiaeth o berfformiadau gan gynnwys opera, drama a cherddoriaeth glasurol.

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd y grŵp

“Ers dod i’r CCD rydym wedi cael y cyfle i ennill Credydau Tempo Time drwy wirfoddoli ein hamser i gefnogi ein grŵp, Elders RCC Windrush Cymru. Mae hyn wedi agor y posibilrwydd o ddefnyddio credydau fel taliadau am wahanol bethau fel sioeau theatr neu fynd i ganolfannau hamdden. Rydym wedi gweld Abel Selaocoe y chwaraewr soddgrwth jazz ddwywaith yn y CCD. Roeddem yn meddwl bod y ddau berfformiad yn syfrdanol, gan fwynhau pob munud - roedd gallu mynychu’r perfformiadau hyn a chael ein cynnwys yng nghyfranogiad y gynulleidfa gan Abel mor hyfryd.”

Astudiaethau achos cennad ddinesig

  • Prifysgol Aberystwyth – Clinigau cyfreithiol
    Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn cynnal dau glinig cyfreithiol sy’n darparu cyngor cyfreithiol am ddim i dros 300 o unigolion bob blwyddyn, yn eu plith nifer na fyddai’n gallu fforddio ffioedd cyfreithwyr preifat. Sefydlwyd Clinig Cyfraith Teulu yr Adran yn sgil gostyngiad yn y ddarpariaeth Cymorth Cyfreithiol yn lleol ac mae wedi bod yn cynnig cefnogaeth gyfreithiol am ddim i bobl Ceredigion ers 2016. Ar gyfartaledd mae’n gweld deg cleient y mis gyda chymorth ychwanegol, yn cynnwys cwblhau gwaith papur cyfreithiol, yn cael ei wneud gan fyfyrwyr trydedd-blwyddyn neu uwchraddedig dan oruchwyliaeth cyfreithiwr cymwysedig. Mae’ Prosiect Cyswllt Cyn-filwyr wedi bod yn darparu cyngor cyfreithiol, gwaith achos a chymorth ar-lein am ddim i gyn-filwyr a’u teuluoedd ers 2015. Mae nifer yr unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn flynyddol wedi codi i 200 yn 2022-23. Mae mwyafrif y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth naill ai'n ddi-waith neu'n derbyn budd-daliadau neu bensiwn; mae llawer yn ddigartref a’r rhan fwyaf yn cwrdd â diffiniad Sefydliad Joseph Rowntree o dlodi.
     
  • Prifysgol Bangor – Canolfan Ymyriad Cynnar ar Sail Tystiolaeth
    Mae Canolfan Ymyriad Cynnar ar Sail Tystiolaeth (CEBEI) Prifysgol Bangor yn ceisio gwella bywydau plant drwy hyrwyddo bod yn rhieni cadarnhaol a lleihau niwed a chamdriniaeth gan rieni. Mae prif ffocws y fenter ar deuluoedd sydd dan anfantais gymdeithasol, gan werthuso rhaglenni sy’n cael eu gweithredu gan ddarparwyr gwasanaethau rheng flaen ym meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.

     
  • Prifysgol Caerdydd - Pasbort i'r Ddinas: Prifysgol Plant Caerdydd
    Mae plant a phobl ifanc ledled Caerdydd yn elwa ar gyfoeth o brofiadau dysgu, adnoddau a chyfleoedd drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd - Pasbort i’r Ddinas: Prifysgol Plant Caerdydd. Nod y prosiect yw annog a datblygu cariad at ddysgu drwy roi mynediad i ddisgyblion i weithgareddau sy’n cynnwys celf a cherddoriaeth, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), yn ogystal â phrofiadau diwylliannol a gweithgareddau chwaraeon, pob un yn cyfrannu at y ‘Pasbort i Ddysgu'. Mae’r cynllun yn dod ag ystod o bartneriaid dinas gyfan ynghyd i fuddsoddi mewn codi dyheadau dysgwyr, tra’n datblygu llwybrau i wireddu’r dyheadau hyn. Mewn seremoni raddio ddiweddar a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, gwobrwywyd mwy na 100 o blant am eu cyflawniadau, gan gynnwys pobl ifanc o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru’r Santes Fair yn Nhrebiwt ac Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái.

     
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd – Campws Agored
    Mae Campws Agored Met Caerdydd yn ffordd gydweithredol o weithio sy'n darparu cyfloedd ar gyfer chwaraeon, gweithgaredd corfforol, chwarae yn yr awyr agored, yn ogystal â chyfleoedd iechyd a llesiant yn rhanbarth Dinas Caerdydd a thu hwnt. Mae Campws Agored yn golygu bod staff a myfyrwyr y brifysgol yn gweithio ar y cyd â’r gymuned i greu cyfleoedd ar gyfer budd i’r naill garfan a’r llall, gan ddarparu profiadau dysgu gwirioneddol drwy chwaraeon, i ddatblygu Caerdydd ymhellach fel Prifddinas sy’n arwain y byd o ran chwaraeon, gweithgaredd corfforol ac iechyd. Yr hyn sy'n gwneud Campws Agored yn unigryw ac yn arwain y sector yw aliniad y prosiect â chwricwlwm y Brifysgol. Mae hyn yn galluogi Met Caerdydd i ddarparu ystod o gyfleoedd am ddim a rhai y telir amdanynt i bartneriaid ar y campws ac oddi arno, sy'n gysylltiedig â chanlyniadau gradd ac ymchwil academaidd myfyrwyr.

     
  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru – REACH Cymru
    Mae REACH Cymru yn brosiect treftadaeth a chelfyddydau creadigol sy’n hybu pobl mewn pum ardal yng Nghymru i archwilio cysylltiadau â hanes eu hardaloedd lleol.  Gan weithio gyda phartneriaid lleol, yn cynnwys arweinwyr cymunedol, cymdeithasau tai ac Amgueddfa Cymru, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi datblygu prosiect sy’n galluogi cyfranogwyr i ddysgu’n greadigol am yr hanesion sydd wedi llunio eu cymunedau. Mae’r cymunedau sy’n rhan o’r prosiect yn cynnwys:
    • Pobl sy'n byw yn Nhrebiwt yng Nghaerdydd, un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y DU
    • Ardal Sandfields ym Mhort Talbot, tref sydd wedi bod wrth galon hanes diwydiannol Cymru
    • Sawl ardal lled-wledig ar draws Sir Benfro
    • Pobl ag anabledd dysgu sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg
    • Ardaloedd o Wynedd sydd â chysylltiadau â chwareli llechi
       
  • Prifysgol Abertawe - Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth
    Mae aelodau o Ganolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth (CHART) Prifysgol Abertawe yn helpu â hybu adfywio sy’n seiliedig ar dreftadaeth, gan dynnu ar safle unigryw De Cymru fel un o brif warchodfeydd treftadaeth y Chwyldro Diwydiannol. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau ffrindiau, elusennau digartrefedd ac ysgolion, mae'r brifysgol yn cefnogi gwaith sy'n seiliedig ar egwyddorion ac arferion creu lleoedd cymunedol.

     
  • Prifysgol De Cymru – Partneriaeth Strategol Linc Cymru
    Mae Prifysgol De Cymru a Linc Cymru wedi cytuno ar bartneriaeth strategol sydd yn anelu at wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas a bywydau pobl ar draws y rhanbarth. Gan feithrin cysylltiadau allweddol mewn ymchwil gymhwysol, lleoliadau gwaith i fyfyrwyr, a datblygu'r cwricwlwm, mae'r bartneriaeth gyda'r Adran Seicoleg yn dangos ymrwymiad PDC i ddarparu profiadau dysgu ac addysgu yn seiliedig ar her ac i adeiladu partneriaethau allanol er mwyn gwella llesiant yn y gymuned.  O dan delerau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, bydd y naill garfan a’r llall yn ymrwymo i gefnogi gwaith myfyrwyr Seicoleg a phrosiectau ymchwil cydweithredol. Maent eisoes yn gweithio tuag at y trefniadau cydweithredol canlynol:
    • Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) wedi ariannu dau brosiect ymchwil
    • Cyd-greu’r cwrs MSc Trosi Seicoleg newydd (cyflwyno ar-lein)
    • Mae myfyrwyr israddedig wrthi’n gwerthuso prosiect Linc Cymru a Phlant yng Nghymru
    • Mae PDC yn darparu therapi cerdd o fewn cynllun Gofal Ychwanegol Linc.
       
  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCyDDS) – Canolfan Galw-Heibio Blaen y Maes
    Mae PCyDDS yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Galw-Heibio Blaen y Maes yn Abertawe i ddarparu cyfleoedd i’r gymuned leol gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu i deuluoedd ac oedolion. Wedi'i ariannu a'i gynnal gan adran Ehangu Mynediad PCyDDS a'i hymrwymiad i'r Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach, mae'r prosiect wedi ymgysylltu â dros 60 o deuluoedd a 200 o aelodau'r gymuned hyd yn hyn. Mae gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at ddileu rhwystrau a fyddai fel arall yn atal cyfranogwyr rhag ymgysylltu wedi cynnwys sesiynau sy’n canolbwyntio ar lesiant, natur, y celfyddydau, rhifedd a llythrennedd, creu a meithrin hyder, yn ogystal â chyfleoedd i fod yn rhan o rwydwaith cymunedol ehangach PCyDDS drwy gyfrwng digwyddiadau lleol a chenedlaethol fel Gorymdaith y Nadolig yn Abertawe ac Wythnos Ffoaduriaid.

     
  • Prifysgol Wrecsam – Mudiad Gogledd Cymru 2025
    Mae Mudiad 2025 yn gasgliad o dros 600 o bobl a sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i roi terfyn ar anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol y gellir eu hosgoi ar draws Gogledd Cymru. Fel partneriaeth sy’n seiliedig ar leoliad sy’n defnyddio dull arweinyddiaeth systemau, mae cenhadaeth ddinesig Prifysgol Wrecsam wedi chwarae rhan alluogi allweddol wrth ddatblygu a hwyluso dysgu a rhwydweithiau 2025 i rannu arfer da ac arloesedd o amgylch rhai o’r heriau allweddol sy’n wynebu partneriaid wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol, megis tlodi bwyd a thanwydd. Mae’r prosiect eisoes wedi gweld cannoedd o bobl yn cael eu helpu mewn cymunedau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.