‘Ar ran Prifysgolion Cymru, hoffwn longyfarch Lynne Neagle ar ei phenodiad fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

‘Mae ein prifysgolion yn hollbwysig i economi a chymdeithas Cymru, gan ddarparu addysg, sgiliau, ymchwil ac arloesedd hanfodol ar draws yr holl wlad.

‘Gyda Chymru’n wynebu heriau na welwyd erioed eu tebyg gyda lleihad mewn cyfranogiad ar draws addysg ôl-16, edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog Addysg newydd i fynd i’r afael â’r heriau hyn a darparu’r cyfleoedd addysg mae pobl yng Nghymru eu hangen.’