Datganiad ar y cyd gan brifysgolion ledled Cymru ar y tymor academaidd newydd

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pob myfyriwr, y rhai newydd a’r rheiny sy’n dychwelyd, i’n prifysgolion ledled Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rydym yn falch iawn y byddwch yn gallu mynychu’r campws yn y brifysgol o’ch dewis, naill ai i gychwyn neu barhau â’ch astudiaethau, yn un o’r gwledydd mwyaf bywiog a chyfeillgar yn y byd. Mae Cymru’n wlad lle mae ymchwil sy’n arwain y byd, partneriaethau sefydledig â diwydiant ac amgylchedd dysgu arloesol a chefnogol wrth wraidd profiad cadarnhaol i fyfyrwyr.

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i’ch cadw chi a’n staff yn ddiogel. Fel prifysgolion, byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i gyflawni ein cyfrifoldebau i’n myfyrwyr, ac i’r cymunedau ehangach rydym yn falch o fod yn rhan ohonynt. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a chyrff iechyd cyhoeddus i sicrhau ein bod ni’n cadw at y canllawiau diweddaraf yn ôl yr angen.

Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei wneud ar ein pennau ein hunain. Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Mae myfyrwyr wedi dangos undod a gwytnwch anhygoel yn y frwydr yn erbyn y pandemig. Roedd myfyrwyr mewn disgyblaethau iechyd ymhlith y cyntaf i gynnig gweithio ar reng flaen y GIG, aeth myfyrwyr ati i gynhyrchu PPE pan oedd stoc yn brin a gwirfoddolodd llawer ohonynt yn y gymuned i helpu â mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Nawr, wrth i ni ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, mae angen i’n holl fyfyrwyr ofalu am ei gilydd, a’r gymuned ehangach, yn eich gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Mae ein staff wedi gweithio’n galed i addasu dulliau addysgu a champysau i’ch cadw’n ddiogel yn ystod y semester newydd. Byddwch yn dal i allu cyrchu arbenigedd ein hathrawon, ymchwilwyr a gwasanaethau myfyrwyr trwy amrywiaeth o lwybrau hygyrch. Mae undebau myfyrwyr a’r timau sabothol wedi bod yn bartneriaid gwerthfawr wrth roi’r cynlluniau hyn ar waith ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu hegni a’u hymrwymiad.

Bydd y profiad o fod yn y brifysgol yn edrych ac yn teimlo ychydig yn wahanol y tymor hwn. Gyda dull cyfunol o addysgu, bydd llai o bobl ar y campws nag arfer a bydd ardaloedd yn cael eu had-drefnu i alluogi pellhau corfforol, gwell protocolau hylendid a’r defnydd o dechnoleg i gynorthwyo cynllun Profi, Olrhain, Diogelu Cymru. Gallwch gefnogi’r ymgyrch hon ymhellach trwy lawrlwytho ap olrhain cysylltiadau’r GIG pan fydd ar gael yn yr Apple App Store a Google Play Store ar 24 Medi.

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fod yn wyliadwrus. Nid ein campysau prifysgol yn unig yw ein cymunedau, ond maent yn cynnwys y trefi, y dinasoedd a’r rhanbarthau ehangach y mae ein prifysgolion yn perthyn iddynt. Fel myfyrwyr, gofynnwn i chi gydnabod y rôl a’r cyfrifoldeb pwysig sydd gennych, ar y campws ac oddi arno, i gadw’ch hun, a’r cymunedau ehangach o’ch cwmpas, yn ddiogel rhag coronafeirws. Blaenoriaethwch iechyd y cyhoedd fel y gallwn sicrhau bod y flwyddyn academaidd newydd yn brofiad diogel a boddhaol i bawb.

Rydym yn diolch i chi am ddewis ymgymryd â’ch addysg uwch yng Nghymru, a dymunwn y gorau i chi ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Gyda dymuniadau gorau.

Yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru a Chadeirydd Prifysgolion Cymru
Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor
Yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe
Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam