• Rhwng 2014/15 a 2022/23 bu cynnydd o 100% yn nifer y busnesau newydd a sefydlwyd ym mhrifysgolion Cymru – cynnydd uwch na chyfartaledd y DU (70%). 
  • Mae gan Gymru hefyd y gyfran uchaf o fusnesau newydd sydd wedi’u sefydlu gan fyfyrwyr o gymharu â maint y boblogaeth yn y DU
  • Yn y flwyddyn academaidd 2022/23, roedd dros 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan y busnesau newydd hyn – cynnydd o 82% ers 2014/15.
  • Erbyn 2028, gallai fod cynifer â 2,000 o fusnesau newydd – gyda throsiant rhagweledig o tua £551m - wedi’u sefydlu mewn prifysgolion yng Nghymru. 
  • Mae arweinwyr prifysgolion yn rhybuddio y gallai’r DU ddod yn ‘economi anogaeth’ a cholli busnesau newydd arloesol i gystadleuwyr oherwydd diffyg cefnogaeth i ehangu 

Mae ffigurau gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn dangos, dros y degawd diwethaf, y bu cynnydd mawr yn nifer y busnesau newydd a gefnogwyd gan brifysgolion ledled y wlad, wrth i fwy o sefydliadau fynd ati i annog busnesau a dechrau addysgu sgiliau menter i fyfyrwyr. Mae data HESA ar ryngweithio rhwng addysg uwch, busnesau a chymunedau yn datgelu’r canlynol:  

  • Rhwng 2014-15 a 2022-23 mae nifer y busnesau newydd gweithredol a sefydlwyd mewn prifysgolion wedi cynyddu 100%, gyda mwy na 320 o gwmnïau yn cael eu cofrestru bob blwyddyn ar gyfartaledd.
  • Mae bron i 3,000 o gwmnïau wedi dod i’r amlwg gyda chefnogaeth prifysgolion Cymru ers 2014/15
  • Dros yr un cyfnod, cynyddodd trosiant busnesau newydd ar draws y sector addysg uwch dros 100% ac roedd buddsoddiad allanol yn y busnesau newydd hyn werth bron i £90m.
  • Mae busnesau newydd a sefydlwyd mewn prifysgolion yn creu swyddi lleol. Yn y flwyddyn academaidd (2022-23) roedd dros 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan fusnesau newydd a oedd wedi tyfu allan o brifysgolion.

Mae dadansoddiad gan sefydliad Prifysgolion y DU (UUK) yn awgrymu, os bydd y duedd bresennol yn parhau, y gellid, dros y tair blynedd nesaf, sefydlu tua 2,000 o fusnesau newydd o brifysgolion Cymru, gan ddarparu cynifer â 7,000 o swyddi. Fodd bynnag, mae prifysgolion yn rhybuddio bod yn rhaid iddynt gael eu hariannu’n gynaliadwy er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni, er mwyn iddynt allu parhau i roi’r cymorth i bweru’r busnesau newydd hyn.  

Mae prifysgolion Cymru yn cefnogi busnesau newydd i ddod i'r amlwg. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys mentora busnes, darparu gofod, anogaeth a chyfleusterau, cysylltu â buddsoddwyr a chynnal digwyddiadau rhwydweithio. 

Datblygodd Lunia 3D o Gaerdydd, a sefydlwyd gan un o raddedigion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCyDDS) Ken Pearce, o hobi mewn sied yn yr ardd i fod yn gwmni argraffu 3D mawr. Mae'r cwmni argraffu 3D wedi denu amrywiaeth o gomisiynau; o offer milwrol achub bywyd ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn; i brototeip car ar gyfer profion hunan-yrru, ac arddangosfa flaen siop fawr wedi'i chynllunio’n benodol ar gyfer siop gemydd flaenllaw yn Mayfair, Llundain.

Dywedodd y sylfaenydd Ken Pearce:

“Roedd y gefnogaeth a gefais gan PCyDDS yn amhrisiadwy. Rwy'n dal i gysylltu â fy narlithwyr a thiwtoriaid, sydd wedi bod yn eiriolwyr gwych i'r busnes. Mae eu hanogaeth hyd yn oed wedi ein helpu i sicrhau prosiectau trwy eirda gan y brifysgol.”

Fodd bynnag, mae arweinwyr prifysgolion ar draws y DU yn rhybuddio'r llywodraeth bod mwy o gwmnïau sydd wedi'u sefydlu yn eu prifysgolion yn cael eu temtio i fynd â'u doniau dramor oherwydd diffyg cyllid sydd ar gael i ehangu. 

Mae busnesau newydd mewn prifysgolion a chwmnïau sy’n datblygu ohonynt yn creu trosiant sylweddol ac yn rhoi hwb i’r economi genedlaethol, gan ddarparu swyddi a denu mewnfuddsoddiad. Mae data London Economics yn dangos bod cyfnewid gwybodaeth / masnacheiddio ymchwil prifysgolion Cymru yn creu effaith economaidd o £1.9bn yn flynyddol.

Mae cyllid ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd yn hanfodol i gynnal y gweithgaredd hwn, ond mae prifysgolion yng Nghymru’n parhau i gael eu tanariannu. 

Mae UUK yn galw ar lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad hirdymor i gyllido arloesedd trwy’r rhaglen HEIF, sy’n cefnogi sefydlu partneriaethau buddsoddi cydweithredol yn Lloegr, ac i helpu prifysgolion i weithio mewn partneriaeth â busnesau ac arweinwyr lleol i gefnogi twf a chyfleoedd lleol ym mhob ardal economaidd a chlwstwr sy’n dod i’r amlwg. 

Yng Nghymru, mae prifysgolion Cymru’n galw am eu cyfran deg o unrhyw gynnydd mewn cyllido ar gyfer arloesedd gan Lywodraeth y DU ac am ddatganoli cyllido arloesedd rhanbarthol i Lywodraeth Cymru. 

Meddai’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae'n wych gweld twf mor sylweddol mewn busnesau newydd a gefnogir gan brifysgolion dros y ddegawd ddiwethaf, a gallwn fod yn falch yng Nghymru fod gennym y gyfran uchaf yn y DU o’r busnesau newydd hyn a sefydlwyd gan fyfyrwyr. 

“Mae ein prifysgolion yn darparu ystod eang o gymorth hanfodol i entrepreneuriaid wrth iddynt sefydlu busnesau newydd. Ac mae prifysgolion ar draws Cymru yn cydweithio trwy Rhwydwaith Arloesi Cymru i wneud camau pellach fyth i fasnacheiddio ymchwil. 

“Rydym yn croesawu lansio Uwchgynhadledd Buddsoddiad Prif Weinidog Cymru. Mae Llywodraeth Cymru’n iawn i flaenoriaethu cefnogaeth ariannol ar gyfer datblygu busnes, sy’n hanfodol bwysig i ddatblygiad economaidd Cymru. Mae gan ein prifysgolion ran hanfodol i chwarae, trwy sefydlu busnesau newydd, denu busnes o adref a thramor, a thrwy eu rôl fel sefydliadau angor yn ein ecosystemau arloesedd lleol.”

Heddiw, lansiodd Prifysgolion Cymru Busnesau Newydd Prifysgolion Cymru (rhan o ymgyrch Unis Start Up the UK sefydliad Prifysgolion y DU), sy'n arddangos y busnesau newydd anhygoel a'r gwaith y mae prifysgolion Cymru yn ei wneud i'w cefnogi. Mae'r fenter hefyd yn ceisio tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae'r busnesau newydd hyn yn ei chwarae o ran hybu twf economaidd yn genedlaethol ac yn lleol trwy greu swyddi a denu buddsoddwyr, yn ogystal â sut mae prifysgolion yn rhoi'r sgiliau cywir i entrepreneuriaid trwy ganolfannau anogaeth.