“Rydym yn croesawu canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025, sydd yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd pwysicaf y gall myfyrwyr sy'n dod i ddiwedd eu hastudiaethau rannu eu barn am eu profiad prifysgol.

“Mae darparu profiad cadarnhaol sy’n cynorthwyo myfyrwyr i ffynnu yn flaenoriaeth uchel i brifysgolion yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o weld prifysgolion Cymru yn rhagori ar gyfartaledd y DU ym mhob thema yr ymdrinnir â hwy.

“Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i waith caled prifysgolion Cymru mewn cyfnod arbennig o heriol, a’r ymrwymiad maen nhw wedi’i ddangos i oresgyn yr heriau hyn a darparu profiad prifysgol cadarnhaol i fyfyrwyr. Gall y rhai sy'n dechrau neu'n dychwelyd i'r brifysgol yr hydref hwn fod yn hyderus y bydd prifysgolion Cymru’n parhau i ddarparu profiad prifysgol o ansawdd uchel a gwerth chweil i helpu myfyrwyr i gyflawni eu huchelgeisiau a gwireddu eu potensial."