• Mae ymchwil gan sefydliad Prifysgolion y DU yn amlygu gwerth mynd i brifysgol, gan gynnwys y ffaith bod 74% o raddedigion yng Nghymru’n dweud eu bod wedi dod o hyd i swydd sy’n adlewyrchu eu huchelgeisiau mewn llai na blwyddyn, diolch i’w haddysg prifysgol
  • Yn hollbwysig, yn ystod argyfwng costau byw – mae dros hanner (56%) o raddedigion Cymru’n dweud bod mynd i’r brifysgol wedi gwella sicrwydd yn eu swyddi.
  • Dywed 75% o raddedigion Cymru fod y cymorth a gawsant yn y brifysgol wedi eu helpu i ganfod gwaith
  • Datgelodd 98% o arweinwyr busnes Cymru a holwyd bod graddedigion yn cyrraedd swyddi rheoli yn gyflymach, o ganlyniad i fynd i brifysgol
  • Mae 73% o arweinwyr busnes Cymru hefyd yn credu bod mynd i brifysgol yn galluogi graddedigion i feithrin sgiliau trosglwyddadwy hollbwysig, gan nodi bod prifysgolion yn faes hyfforddi hanfodol ar gyfer diwydiant Cymru, ac ar draws y DU; gan arfogi’r genhedlaeth nesaf â’r sgiliau i adfer twf busnes yn y Deyrnas Unedig 

Mae data newydd diamheuol a ryddhawyd heddiw gan sefydliad Prifysgolion y DU (UUK) yn datgelu bod 74% o raddedigion Cymru o’r farn bod mynd i'r brifysgol wedi’u galluogi i ddod o hyd i'r swydd roedden nhw ei heisiau. Ac, mewn argyfwng costau-byw parhaus, dywed dros hanner (56%) y graddedigion hynny bod mynd i brifysgol wedi gwella sicrwydd yn eu swyddi, tra bod 75% yn dweud bod y cymorth a gawsant yn y brifysgol wedi eu helpu i ganfod cyflogaeth.

Mae’r ymchwil, sy’n seiliedig ar safbwyntiau 3,500 o raddedigion y DU a 3,500 o arweinwyr busnes (perchnogion a sylfaenwyr busnesau, aelodau bwrdd, prif weithredwyr, cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr) ledled y DU, hefyd yn datgelu bod 73% o raddedigion yng Nghymru’n dweud bod mynd i'r brifysgol wedi eu galluogi i feithrin sgiliau sydd wedi bod yn werthfawr yn broffesiynol. Ac, yn achos 73% o raddedigion a 77% o arweinwyr busnes yng Nghymru, roedd mynd i’r brifysgol wedi helpu i feithrin eu hunanhyder.

Mae 6 o bob 10 o raddedigion (60%) a bron i dri chwarter yr arweinwyr busnes (73%) yng Nghymru hefyd yn credu bod mynd i brifysgol yn galluogi graddedigion i feithrin sgiliau trosglwyddadwy hanfodol sy'n eu helpu yn eu gyrfa; gan nod bod prifysgolion y DU yn faes hyfforddi hanfodol ar gyfer diwydiant y DU.

Mae’r canfyddiadau hyn yn cael eu hategu gan y mewnwelediad bod dros chwarter (29%) o raddedigion yng Nghymru wedi dod o hyd i’w swyddi cyntaf drwy gysylltiad uniongyrchol â’u prifysgol neu gwrs gradd, a bod 77% o arweinwyr busnes yng Nghymru’n dweud bod mynd i brifysgol wedi agor drysau i gwmnïau perthnasol iddyn nhw. Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu cryfder y cysylltiadau sy’n bodoli rhwng prifysgolion a’r sector preifat, a’u rôl ganolog wrth fynd i’r afael â bylchau sgiliau ar gyfer diwydiant y DU.

Mae’r ymchwil gan sefydliad Prifysgolion y DU hefyd yn amlinellu effeithiau ehangach mynd i’r brifysgol ar ganfod cyflogaeth yng Nghymru. Dywed 74% o raddedigion yng Nghymru iddynt ddod o hyd i'w swydd/rôl mewn llai na blwyddyn. Yn ogystal â hynny, dywed 98% o arweinwyr busnes Cymru a holwyd bod graddedigion yn cyrraedd swyddi rheoli yn gyflymach, o ganlyniad i fynd i brifysgol

Cefnogi datblygiad gyrfa:

Yn ôl yr ymchwil, mae 62% o arweinwyr busnes yng Nghymru o’r farn bod graddedigion fel arfer yn symud ymlaen yn gyflymach drwy rengoedd eu busnes; canfyddiad y gellid ei gysylltu â'r mewnwelediad bod 71% hefyd yn credu bod mynd i brifysgol yn rhoi gwybodaeth dda i raddedigion am y sector a diwydiant. Ar ben hynny, lle mae graddedigion a'r rhai nad ydynt yn raddedigion yn gallu cyflawni'r un rôl yn eu sefydliad, byddai 88% o arweinwyr busnes yng Nghymru’n disgwyl gweld gweithwyr graddedig yn ennill mwy na’r rhai sydd heb radd prifysgol ar ôl 3 blynedd.

Gall myfyrwyr hŷn hefyd elwa'n ariannol o ennill gradd. Ar gyfartaledd, mae arweinwyr busnes yng Nghymru’n disgwyl i weithwyr nad oeddent yn meddu ar radd yn flaenorol sy’n ennill gradd sy’n berthnasol i’w rôl weld cynnydd o 21% yn eu cyflog.

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae prifysgolion yn chwarae rôl hanfodol yn ein cymdeithas, gan bweru’r economi a hyfforddi gweithlu’r dyfodol. Mae’r ymchwil newydd hwn yn dangos yn glir beth yw gwerth addysg prifysgol, i’r graddedigion ac i’r rhai sy’n eu cyflogi ac yn elwa o’u sgiliau.

O sicrwydd swyddi a chyflogau, i uchelgeisiau gyrfa a symudedd cymdeithasol, mae’r manteision a ddatgelir gan yr ymchwil hwn yn niferus. Nid yn unig yw ein prifysgolion yn paratoi graddedigion ar gyfer byd gwaith, ond maen nhw hefyd yn dysgu sgiliau bywyd hanfodol, trosglwyddadwy, a fydd o gymorth iddynt gydol eu gyrfa.

Mae’n glir gweld bod ein prifysgolion yn chwarae rôl bwerus mewn helpu graddedigion i wireddu eu huchelgeisiau o ran gyrfa, yn ogystal â gwneud cyfraniad gwerthfawr a all helpu economi’r DU i dyfu unwaith eto a pharhau i bweru ein gwasanaethau cyhoeddus.”

DIWEDD 

 

Nodiadau i Olygyddion:

Mae'r canfyddiadau hyn yn seiliedig ar ymchwil defnyddwyr a luniwyd yn benodol at y diben, ac a gynhaliwyd gan Censuswide ymhlith 3,505 o raddedigion a 3,506 o arweinwyr busnes sy’n cynrychioli gwledydd y DU. Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng 16/06/2023 a 26/06/2023 ar gyfer graddedigion y DU a rhwng 16/06/2023 a 27/06/2023 yn achos arweinwyr busnes. Daethpwyd o hyd i’r holl ymatebwyr gan ddefnyddio panel mynediad ymchwil ar-lein achrededig.

Aeth cwmni Development Economics ati i fapio canlyniadau’r arolwg yn erbyn setiau data ac adroddiadau oedd yn bodoli eisoes, a amlinellir isod:

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ellie Gill Jones yn Grŵp MHP: ellie.gilljones@mhpgroup.com / uuk@mhpgroup.com