
Lunia 3D
Datblygodd Lunia 3D o Gaerdydd, a sefydlwyd gan un o raddedigion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCyDDS) Ken Pearce, o hobi mewn sied yn yr ardd i fod yn gwmni argraffu 3D mawr.
Mae'r cwmni argraffu 3D wedi denu amrywiaeth o gomisiynau; o offer milwrol achub bywyd ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn; i brototeip car ar gyfer profion hunan-yrru, ac arddangosfa flaen siop fawr wedi'i chynllunio’n benodol ar gyfer siop gemydd flaenllaw yn Mayfair, Llundain.
Ar ddiwedd 2024, enwyd Ken yn Berson Busnes Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2024 – cydnabyddiaeth sy’n tynnu sylw at ei daith entrepreneuraidd a thwf trawiadol ei gwmni.
“Roedd y gefnogaeth a gefais gan PCyDDS yn amhrisiadwy. Rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â fy narlithwyr a thiwtoriaid, sydd wedi bod yn eiriolwyr gwych i'r busnes. Mae eu hanogaeth hyd yn oed wedi ein helpu i sicrhau prosiectau trwy eirda gan y brifysgol.”