
Lolli Lifting
Mae Lolli Lifting, a sefydlwyd gan raddedigion y gyfraith Lucy Wooldridge ac Oliver Griffiths, yn gwerthu casgliad o ategolion codi-pwysau a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer menywod.
Graddiodd Lucy o Brifysgol Caerdydd a graddiodd Oliver o Brifysgol Birmingham y llynedd. Yn ystod eu hamser yn y brifysgol, sylwodd Lucy ar fwlch yn y farchnad ym maes ffitrwydd menywod, gyda gwregysau codi-pwysau duon yn dominyddu’r farchnad, a diffyg opsiynau i fenywod, o ran dyluniad ac ansawdd.
Taniodd hyn angerdd yn Lucy i greu rhywbeth newydd, cyffrous, a fyddai’n taro deuddeg gyda menywod ar draws y byd. Gyda chefnogaeth Oliver, aeth ymlaen i droi’r weledigaeth hon yn Lolli Lifting.
Yn 2023, cyflwynodd Lucy Lolli Lifting ar gyfer Gwobrau Go-Getter Santander ym Mhrifysgol Caerdydd a dod yn gyntaf, gan sicrhau grant o £5,000 ar gyfer y busnes. Ers hynny, mae’r busnes wedi parhau i ffynnu, gan ennill Gwobrau Side Hustle y Myfyrwyr yn 2024, ynghyd â grant ychwanegol o £2,500. Yn yr un flwyddyn, enwyd Lolli Lifting yn Fusnes Newydd Cynhyrchion Defnyddwyr y flwyddyn ar gyfer Canolbarth Lloegr yng Ngwobrau Busnesau Newydd y DU.
Mae'r dyfodol yn ddisglair i Lolli, wrth iddynt baratoi i lansio ystod newydd o gynhyrchion, o badiau barbwysau i fagiau campfa. Mae’r busnes yn awyddus i gynyddu eu catalog cynnyrch a thyfu i ddod yn frand sydd wedi sefydlu ei hun yn y diwydiant ffitrwydd.
"Mae fy mhrofiad gyda’r tîm [Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd] wedi bod yn amhrisiadwy. Mae pawb wir eisiau i chi lwyddo, ac mae'n wych dod o hyd i feysydd i'w gwella a defnyddio'r llwybr, sy'n darparu adnoddau defnyddiol i weithio ar eich busnes yn eich amser eich hun.
“Camais allan o fy ardal gysur a chystadlu yn y Gwobrau Go-Getter. Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n dod yn gyntaf ac yn ennill y grant o £5,000 ar gyfer Lolli Lifting; mae'n parhau i fod y diwrnod gorau erioed. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae gan fy musnes bellach nifer o gynhyrchion; mae'n tyfu bob dydd ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae'r holl brofiad yn gwireddu breuddwyd."