Bwriadwyd y fenter newydd hon i gryfhau'r cydweithio rhwng sefydliadau yn Iwerddon a Chymru, gan wella eu gallu i sicrhau cyllid gan Horizon Europe. Mae'n darparu cymorth ariannol i bartneriaid academaidd, gan eu galluogi i gydweithio ar brosiectau arloesol sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang a hyrwyddo cynnydd gwyddonol.

Mae’r rhaglen yn cynnig grantiau o hyd at €60,000 i dimau ymchwil cymwys, gyda 50% o’r cyllid yn cael ei ddarparu gan sefydliad Ymchwil Iwerddon a 50% gan RhAC o grant arloesedd Llywodraeth Cymru. Rhaid i geisiadau ar y cyd gael eu harwain gan ymchwilwyr o Iwerddon a Chymru. Trwy annog cydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon, nod y gronfa yw manteisio ar gryfderau prifysgolion yn y naill wlad a’r llall, gan greu sylfaen ar gyfer ymchwil a datblygiad effeithiol.

Maeddai Dr Lewis Dean, pennaeth Rhwydwaith Arloesi Cymru:

“Mae penderfyniad y DU i ail-gysylltu â Horizon Europe yn 2024 yn gyfle gwych i ymchwilwyr o Gymru fod yn rhan o raglen ymchwil gydweithredol fwyaf y byd. Mae’r rhaglen hon ar y cyd rhwng Rhwydwaith Arloesedd Cymru ac Ymchwil Iwerddon yn rhoi cymorth i ymchwilwyr o Gymru adeiladu cysylltiadau newydd a chryfhau partneriaethau sy’n bodoli eisoes gyda'u cymheiriaid yn Iwerddon. Rwy’n falch iawn y gall RhAC hwyluso’r fenter hon i arddangos rhagoriaeth ymchwil Cymru ar lwyfan rhyngwladol a sefydlu mentrau cydweithredol er mwyn mynd i’r afael â heriau byd-eang.”

Meddai Celine Fitzgerald, Prif Weithredwr dros-dro Ymchwil Iwerddon:

“Mae gan Iwerddon a Chymru hanes cryf o gydweithio ar brosiectau ymchwil ac arloesedd, ac mae hyn wedi’i ategu trwy ymrwymiad gwleidyddol rhwng ein dwy lywodraeth. Heddiw, mae gan Ymchwil Iwerddon bartneriaethau gweithredol gydag ystod o sefydliadau addysg uwch, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. Rwy’n croesawu lansiad Cronfa’r Gynghrair Ymchwil, a fydd yn cadarnhau ein cysylltiadau ymchwil ymhellach ac, yn benodol, yn cryfhau ein ceisiadau am grant ar y cyd i Horizon Europe.”

Rhaid anfon ceisiadau ar ffurf un PDF i raa@researchireland.ie erbyn 31ain Ionawr 2025. Lawrlwythwch y ddogfen alwad a'r ffurflen gwariant.

Ar gyfer ymholiadau gan sefydliadau Cymreig, cysylltwch â innovation.network@uniswales.ac.uk.