Helpu plant ifanc i ddatblygu sgiliau ar gyfer bywyd iach
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi creu rhaglen i gefnogi datblygiad llythrennedd corfforol a sgiliau echddygol plant.
Mae data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod mwy nag un o bob pedwar o blant sydd rhwng pedair a phum mlwydd oed dros eu pwysau neu’n ordew, a bod nifer y plant gordew sydd rhwng pedair a phum mlwydd oed wedi cynyddu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd o'r farn mai gordewdra yw un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf difrifol yn fyd-eang.
Mae llawer o blant a phobl ifanc yng Nghymru nad ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd, a hynny'n aml oherwydd sgiliau echddygol gwael. Os gellir gwella sgiliau echddygol plant, bydd yn haws iddynt fod yn gorfforol egnïol a chynnal pwysau iach.
Caiff plant sydd rhwng tair a saith mlwydd oed yng Nghymru eu haddysgu drwy'r Cyfnod Sylfaen. Cwricwlwm sy'n seiliedig ar chwarae yw hwn. Nid oes pynciau penodol ac mae'r awyr agored yn rhan allweddol o addysg y plant.
Edrychodd tîm ymchwil Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, o dan arweiniad Dr Nalda Wainwright, ar y Cyfnod Sylfaen a sut mae’n cyfrannu at ddatblygiad llythrennedd corfforol plant (h.y. y cymhelliant, hyder, gallu, dealltwriaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynnal gweithgarwch corfforol ar lefel sy’n briodol i’r unigolyn, gydol oes).
Canfuwyd bod y cwricwlwm sy’n seiliedig ar yr awyr agored a chwarae yn helpu plant i ddod yn fwy egnïol yn gorfforol. Fodd bynnag, canfuwyd hefyd y gellid gwneud mwy i ddatblygu sgiliau echddygol y plant yn llawn.
SKIP-Cymru
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, creodd y tîm SKIP-Cymru, sef rhaglen datblygiad proffesiynol i helpu athrawon, cynorthwywyr dosbarth, gweinyddion meithrin a rhieni i osod y sylfeini ar gyfer llythrennedd corfforol plant.
Yn seiliedig ar ymchwil blaenorol i ddatblygu Cyfarwyddyd Cinesthetig Llwyddiannus ar gyfer Plant Cyn Oed Ysgol, mae SKIP-Cymru wedi’i addasu i gyd-fynd â natur gyfannol, seiliedig ar chwarae, Cyfnod Sylfaen y cwricwlwm yng Nghymru. Mae'n gweithredu fel cydweithrediad traws-sector ac yn gweithio gyda thimau datblygu chwaraeon rhanbarthol a gwasanaethau hamdden i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan a chymunedol.
Mae SKIP-Cymru wedi cael ei gyflwyno mewn 33 o ysgolion yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae oedi yn natblygiad echddygol plant yn fwy tebygol.
Ymgysylltiad rhieni
Mae ymgysylltu â rhieni yn rhan annatod o SKIP-Cymru. Sefydlodd staff a fynychodd hyfforddiant SKIP-Cymru sesiynau ymgysylltu lle gwahoddwyd rhieni i gymryd rhan yn y gweithgareddau gyda'u plant a dysgu am bwysigrwydd symud.
Mae adnoddau a gweithgareddau ar-lein rhad ac am ddim wedi'u datblygu fel y gall rhieni gael mynediad iddynt gartref, a rhoddwyd bagiau rheini i'r plant fynd adref gyda nhw er mwyn eu galluogi i gymryd rhan yn y gweithgareddau fel teulu.
Gan dynnu ar waith SKIP-Cymru gyda rhieni a lleoliadau cyn ysgol, mae Dr Wainwright wedi ysgrifennu rhaglen ymgysylltu â theuluoedd ar gyfer Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi’i thargedu at deuluoedd â phlant ifanc cyn oed ysgol i gefnogi rhieni i chwarae gweithgareddau sy’n briodol i’w datblygiad.
Gwella sgiliau echddygol plant
Mae SKIP-Cymru wedi helpu rhieni a gweithwyr proffesiynol i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu sgiliau echddygol plant. Mae tystiolaeth bod plant wedi gwneud cynnydd sylweddol yn eu holl sgiliau echddygol o ganlyniad i SKIP-Cymru, a bod rhieni wedi cymryd mwy o ddiddordeb yn natblygiad eu plant.
Yn dilyn gwerthusiad o waith SKIP-Cymru, roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen addysgu sgiliau echddygol sylfaenol i blant pan yn ifanc ac y dylid eu cynnwys yn y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Y tîm ymchwil
Dr Nalda Wainwright – Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.