Harneisio technoleg i wella addysgu iaith
Gan weithio gyda chydweithwyr ar draws Ewrop, gwnaeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ddadansoddi’r defnydd o amrywiaeth o dechnolegau yn yr ystafell ddosbarth a datblygu adnoddau i gefnogi athrawon iaith i wireddu eu llawn botensial a datblygu dulliau addysgu newydd.
Mae gan dechnolegau rhyngweithiol y potensial i gefnogi addysgu mwy effeithiol. Fodd bynnag, yn aml ni chaiff eu potensial ei wireddu. Lle mae athrawon wedi defnyddio technoleg, bu eu ffocws yn gyffredinol ar y technolegau eu hunain yn hytrach na’r dulliau addysgu cydweithredol a rhyngweithiol y gallant eu galluogi.
Gan adeiladu ar ei waith ymchwil blaenorol ar addysgu rhyngweithiol, datblygodd yr Athro Gary Beauchamp o Brifysgol Metropolitan Caerdydd fframwaith i asesu sut mae athrawon yn defnyddio technoleg wrth addysgu, gan ganolbwyntio ar fyrddau gwyn rhyngweithiol.
O’r fan hon, ymunodd â’r prosiect Technolegau Rhyngweithiol Ewropeaidd mewn Addysgu Ieithoedd (ITiLT), ac arweiniodd ail fersiwn ITiLT2, a oedd â’r nod o wella sut mae athrawon ieithoedd yn defnyddio technoleg i gyfoethogi eu hymarfer addysgu.
Gwireddu potensial technolegau rhyngweithiol
Gweithiodd y tîm ymchwil gyda chydweithwyr o Wlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Ffrainc, Twrci a Sbaen. Buont hefyd yn gweithio'n agos gyda darlithwyr, athrawon a disgyblion yn y gwledydd hyn i gynllunio, cyflwyno a chofnodi gwersi.
Canfu eu hymchwil fod gan lawer o ddarlithwyr ac athrawon ddiffyg hyder wrth ddefnyddio technoleg, a oedd yn cyfyngu ar y modd yr oeddent yn ei defnyddio yn eu haddysgu. Roedd hyd yn oed y rhai oedd yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio technolegau rhyngweithiol yn llai hyderus ynglŷn â’u defnyddio i’w llawn botensial i ddatblygu dulliau addysgu newydd.
Canfu’r prosiect fod y rhan fwyaf o ystafelloedd dosbarth wedi’u trefnu gan ganolbwyntio ar yr addysgwr yn hytrach na’r dysgwr, yn enwedig yn achos dysgwyr iau. I fynd i’r afael â hyn, datblygodd y tîm ymchwil offeryn ar-lein i alluogi athrawon i ddadansoddi eu defnydd o wahanol dechnolegau wrth addysgu iaith.
Cynhyrchodd tîm ITiLT hefyd ystod eang o adnoddau yn ymwneud â defnyddio technoleg ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon dosbarth a darlithwyr prifysgol. Roedd y rhain yn cynnwys fideos o wersi, e-ganllawiau a llyfrgell ar-lein, a oedd ar gael trwy wefan y prosiect.
Effaith fyd-eang
Newidiodd gwaith y tîm y defnydd o dechnoleg ym maes addysgu iaith mewn saith gwlad yn Ewrop ac Ewrasia, gan fod o fudd i tua 50,000 o ddisgyblion a myfyrwyr.
Cynhyrchwyd adnoddau ITiLT yn Ffrangeg, Almaeneg, Iseldireg, Sbaeneg, Tyrceg a Saesneg. Mae gwefan y prosiect wedi cael ei defnyddio gan ymarferwyr addysgu yn Ewrop, Gogledd America, Awstralia a Thwrci, ac mae ei hadnoddau ar-lein wedi’u rhannu drwy gyrff proffesiynol a rhwydweithiau fel European Schoolnet, rhwydwaith dielw o 34 gweinyddiaeth addysg Ewropeaidd, sy’n cynnwys ITiLT yn amlwg ar ei wefan.
Y tîm ymchwil
Yr Athro Gary Beauchamp a Dr Emily Abbinett, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn