Rhaid i bob sefydliad cyfryngau gydbwyso heriau cystadleuaeth fyd-eang ac arloesi technolegol â rheoleiddio cenedlaethol ac anghenion y cyhoedd.
Fodd bynnag, mewn cenhedloedd bach fel Cymru, mae heriau ychwanegol o adnoddau cyfyngedig, cymdogion mwy pwerus a systemau llywodraethol aml-haen cymhleth. Gyda’i gilydd, gall yr heriau hyn arwain at ddiffyg buddsoddiad, arloesedd a chynrychiolaeth ddiwylliannol.
Gwnaeth tîm o’r Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach (CMCSN) ym Mhrifysgol De Cymru (PDC)edrych ar y berthynas rhwng strategaeth ddarlledu, cynhyrchu teledu a chynrychiolaeth ddiwylliannol yn y diwydiant teledu Cymraeg. Buont hefyd yn archwilio’r gwrthdaro rhwng busnes a diwylliant y mae llawer yn y diwydiannau creadigol yn ei wynebu.
Deall yr heriau
Canfu eu hymchwil nad oes digon o graffu cyhoeddus ar bolisi cyfryngau yng Nghymru. Datgelodd hefyd ddiffyg buddsoddiad mewn darlledu Cymraeg, gan amlygu gostyngiad gwariant o 22.4% gan y BBC ar raglenni Saesneg i Gymru, a thoriad o 36% i gyllideb S4C. Daeth y tîm i'r casgliad bod buddsoddiad digonol yn hanfodol i gynnal cynhyrchiant domestig cenhedloedd bach.
Edrychodd y tîm hefyd ar rôl darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB), gan ganfod ei fod yn cyfrannu’n anghymesur at ddiwylliant ac economi cenhedloedd bychain ac yn helpu i normaleiddio defnydd iaith leiafrifol mewn bywyd bob dydd. Yng ngoleuni hyn, tynnodd y tîm sylw at yr angen i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn fwy cynhwysol a chyfleu eu gwerth yn well i gynulleidfaoedd.
Mae ymchwil y tîm wedi helpu i newid tirwedd y cyfryngau yng Nghymru.
Dylanwadu ar bolisi darlledu
Mae’r ymchwil wedi llywio Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd ar ddarlledu yng Nghymru ac wedi helpu i wella craffu democrataidd ar bolisi cyfryngau datganoledig.
Mae ymgysylltiad y tîm â’r cyfryngau wedi gwella dealltwriaeth y cyhoedd o sut mae polisi’n ffurfio’r hyn a welwn ar y sgrin, tra’n cynnig cyngor gwybodus, yn seiliedig ar ymchwil i’r rheolydd, Ofcom.
Bu ymchwil ac argymhellion PDC hefyd yn sail i adolygiad Llywodraeth y DU o S4C, y darlledwr cyhoeddus Cymraeg ei iaith. Arweiniodd at ddiwygiadau i gylch gwaith statudol S4C, felly mae’n adlewyrchu’r oes ddigidol yn well ac yn gwasanaethu cynulleidfaoedd modern Cymraeg eu hiaith ledled y DU.
Mwy o fuddsoddiad mewn cynyrchiadau teledu Cymraeg
Bu arbenigedd y Ganolfan mewn systemau cynhyrchu sgrin hefyd yn gymorth i sicrhau Clwstwr. Mae Clwstwr, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd gyda Phrifysgol De Cymru fel partner, yn un o wyth Clwstwr Creadigol yn unig yn y DU, sy’n trosoli £1 miliwn y flwyddyn o fuddsoddiad newydd ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn niwydiannau sgrin Cymru ac mae wedi cefnogi mwy na 60 o ddiwydiannau a phrosiectau ymchwil a datblygu Addysg Uwch.
Mae gwaith y tîm hefyd wedi helpu i sicrhau cyllid ar gyfer cynnyrch newydd, Plan V - stiwdio rithwir sy'n caniatáu i gynhyrchwyr teledu ddelweddu setiau sydd wedi'u creu'n rhithwir.
Defnyddiwyd Plan V am y tro cyntaf ar His Dark Materials, cyfres gan y BBC a HBO a gynhyrchwyd yn Wolf Studios yng Nghaerdydd. Daeth His Dark Materials yn sioe newydd a gafodd ei gwylio fwyaf gan y BBC mewn pum mlynedd, gyda 7.2 miliwn o wylwyr yn y DU a miliynau yn fwy ym mhedwar ban byd.
Y tîm ymchwil
Yr Athro Ruth McElroy, Dr Helen Davies a Dr Christina Papagiannouli – Canolfan y Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach (CMCSN) / Grŵp Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol – a Richard Hurford a Tom Ware, Prifysgol De Cymru
Partneriaid ymchwil
Y Gymdeithas Deledu Frenhinol, TG4, Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru, Undeb Darlledu Ewropeaidd, S4C, Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, BBC.