Galw am raddedigion yng Nghymru i gynyddu’n aruthrol erbyn 2035
Bydd angen mwy na 400,000 o raddedigion ychwanegol yng Nghymru erbyn 2035 er mwyn ymateb i fylchau sgiliau a heriau gweithluoedd y dyfodol. Dyma ganfyddiad adroddiad newydd, Jobs of the Future, gan Universities UK.
21 August 2023
- Erbyn 2035, bydd 95% o swyddi newydd yng Nghymru ar lefel graddedigion, a disgwylir y bydd 88% o swyddi’r Deyrnas Unedig ar lefel graddedigion.
- Bydd angen mwy nag 11 miliwn o raddedigion ychwanegol ar fusnesau’r Deyrnas Unedig erbyn 2035, gyda’r twf cyflymaf yn y galw am raddedigion ym meysydd STEM, iechyd, addysg a gwasanaethau busnes
- Prifysgolion Cymru yn cael eu canmol am feithrin sgiliau a phrofiadau gwerthfawr mewn diwydiannau newydd, gan gynnwys roboteg a deallusrwydd artiffisial (AI).
Bydd angen mwy na 400,000 o raddedigion ychwanegol yng Nghymru erbyn 2035 er mwyn ymateb i fylchau sgiliau a heriau gweithluoedd y dyfodol. Dyma ganfyddiad adroddiad newydd, Jobs of the Future, gan Universities UK (UUK), sy’n amcangyfrif y bydd 95% o swyddi newydd yng Nghymru ar lefel graddedigion erbyn 2035.
Yn y cyfamser, mae arolwg o gwmnïau FTSE 350 a gynhaliwyd ochr yn ochr â’r adroddiad yn dangos bod busnesau yn gosod eu golygon yn bendant ar y gronfa dalent yng Nghymru, gydag un o bob pump yn bwriadu recriwtio talent o ardal Caerdydd dros y pump i ddeg mlynedd nesaf.
Ar draws y Deyrnas Unedig, bydd angen mwy nag 11 miliwn o raddedigion ychwanegol i lenwi swyddi erbyn 2035, gyda’r twf cyflymaf yn y galw am raddedigion ym meysydd STEM, iechyd, addysg a gwasanaethau busnes. Ar hyn o bryd, mae 15.3 miliwn o raddedigion yng ngweithlu’r Deyrnas Unedig, felly mae hynny’n golygu cynnydd sylweddol yn y galw.
Mae disgwyl y bydd datblygiad AI yn benodol yn cael effaith sylweddol ar dueddiadau cyflogi, gyda graddedigion yn debygol o elwa o’r maes hwn sy’n tyfu’n gyflym. O ganlyniad i AI, bydd cynnydd net o 10% yn y swyddi yn y Deyrnas Unedig y bydd angen gradd ar eu cyfer dros yr 20 mlynedd nesaf, gan gynnwys bron i 500,000 yn rhagor o swyddi proffesiynol a gwyddonol.
Mae’r newidiadau arwyddocaol hyn i’r tirlun cyflogaeth yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddol dysgu gydol oes hefyd. Dywedodd dros hanner (54%) yr ymatebwyr i arolwg y FTSE350 eu bod yn disgwyl y bydd angen i weithlu’r dyfodol ailhyfforddi o leiaf unwaith yn ystod eu gyrfa o ganlyniad i gyflymder aruthrol newidiadau technolegol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson:
“Mae mwy na chwarter gweithlu presennol y Deyrnas Unedig heb ddigon o gymwysterau ar gyfer y swydd y maen nhw ynddi – ac mae’r blynyddoedd lawer o dwf di-baid yn y galw am raddedigion yn golygu ein bod yn ceisio dal i fyny er mwyn arfogi ein cyflogwyr â’r hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo.
“O iechyd a thechnoleg i sgiliau digidol ac addysg, mae graddedigion prifysgol yn elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant yr economi, ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein harfogi i allu parhau i ddiwallu’r angen hwn – a’n bod yn sicrhau bod addysg uwch yn fforddiadwy ac yn hygyrch a bod lefel uchel yr addysg a ddarperir gan ein sefydliadau ar hyn o bryd yn cael ei chynnal.”
Dywedodd Alex Hall-Chen, Prif Ymgynghorydd Polisi ar gyfer Cynaliadwyedd, Sgiliau a Chyflogaeth yn Sefydliad y Cyfarwyddwyr:
“Mae prinder parhaus a dybryd o ran sgiliau yn un o’r pryderon sy’n pwyso fwyaf ar fusnesau’r Deyrnas Unedig. Mae’r galw am sgiliau trosglwyddadwy – fel meddwl yn feirniadol a chyfathrebu – yn parhau’n gryf ar draws pob sector, a bydd sector addysg uwch y Deyrnas Unedig yn chwarae rôl allweddol yn datblygu llif o dalent gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau er mwyn ffynnu.”
Wrth dynnu sylw at yr angen am ragor o weithwyr â sgiliau, mae UUK wedi canmol prifysgolion Cymru am feithrin sgiliau a phrofiadau y mae galw mawr amdanynt mewn diwydiannau newydd – o ymgorffori AI mewn cwricwla a fframweithiau addysgu i gefnogi graddedigion sy’n sefydlu cwmnïau newydd ym maes realiti rhithwir a datblygu technoleg roboteg sydd ar flaen y gad.
Mae diwydiannau newydd ar flaen y meddwl ym mhrifysgolion Cymru
- Cafodd Imersifi, sy’n gwmni Realiti Rhithwir blaengar, ei sefydlu gan Joe Charman a Jack Bengeyfield tra roedden nhw’n gweithio tuag at eu MSc mewn Realiti Rhithwir ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’n gwneud cryn argraff nawr yn y sector technoleg Realiti Rhithwir sy’n datblygu. Mae’r cwmni’n creu rhaglenni Realiti Rhithwir sy’n efelychu unrhyw amgylchedd neu senario, gan alluogi posibiliadau di-ben-draw ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau. Mae Imersifi wedi datblygu rhaglenni Realiti Rhithwir sy’n cael eu defnyddio gan sefydliadau megis GIG Cymru, GSK, a Phrifysgol Abertawe ac mae ganddo bartneriaethau gyda darparwyr Caledwedd Realiti Estynedig fel HTC.
- Mae’r Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ymgorffori AI yn ei fframwaith addysgu. Mae hyn yn gwella galluoedd entrepreneuraidd y myfyrwyr yn sylweddol, ac mae hynny’n gwbl angenrheidiol o ystyried y galw cynyddol am alluoedd AI yn y farchnad swyddi. Drwy wneud defnydd o AI, mae’r rhaglen PGCert mewn Sgiliau Menter yn ymgorffori cyfuniad unigryw o ddysgu yn ôl eich pwysau eich hun a phrofiadau rhyngweithiol, cydweithredol sy’n efelychu senarios yn y byd go iawn. Mae ARDEC yn deall bod profiad o’r byd go iawn yn cyfoethogi’r dysgu’n sylweddol, a dyna pam mae lleoliadau gwaith sy’n galluogi’r myfyrwyr i weithio’n uniongyrchol gydag AI yn rhan annatod o’r rhaglen hefyd. Darllen mwy
- Ym Mhrifysgol De Cymru, mae tîm o 25 o staff academaidd wedi ymffurfio yn weithgor sy’n rhoi sylw penodol i Gwricwlwm ac Asesu AI. Daw hyn wrth i’r Brifysgol ddatblygu cwrs Meistr yn y Gwyddorau mewn AI i helpu i baratoi graddedigion ar gyfer rolau sy’n gysylltiedig ag AI. Mae’r gweithgor yn ystyried y defnydd o AI cynhyrchiol mewn asesu ac yn y cwricwlwm, ac yn gweithio hefyd i sicrhau bod addysgu AI yn y brifysgol yn cadw’n gyfoes gyda thueddiadau sy’n symud yn gyflym mewn diwydiant.
- Mae technoleg roboteg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei defnyddio i wthio ffiniau newydd – o adeiladu modelau o rewlifoedd sy’n ymrannu i weithio ar raglenni gofod rhyngwladol. Drwy eu gwaith i annog mwy o ddiddordeb mewn roboteg, mae’r Grŵp Ymchwil Roboteg Deallus yn ymweld ag ysgolion a cholegau ledled y Deyrnas Unedig ac fe wnaethant gyfrannu at raglen estyn allan a wnaeth gyswllt â thros 310,000 o ymwelwyr i amgueddfeydd gwyddoniaeth ar hyd a lled y wlad. Aeth mwy na dau o bob tri o blith carfan gyntaf myfyrwyr Clwb Roboteg Aberystwyth ymlaen i astudio ar gyfer gradd mewn pwnc STEM. Darparodd y clwb batrwm hefyd er mwyn helpu i sefydlu clybiau roboteg mewn llefydd eraill o gwmpas y byd.
- Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn meithrin sgiliau STEM y mae galw mawr amdanynt yn yr Ysgol Gelf a Dylunio a’r Ysgol Dechnolegau, wedi i gywaith rhyngddynt lwyddo i greu robot awtonomaidd sy’n gallu cynnal gerddi, gan gynnwys y gallu i blannu hadau, eu dyfrio, chwynnu, a mesur lefelau gwlybaniaeth mewn pridd.
Gwnaeth myfyrwyr technoleg gyfraniad sylweddol at brosiect Farmbot - drwy helpu i adeiladu’r robot ei hun yn ogystal â chynllunio a datblygu’r wefan a fydd yn rhoi sylw i nodweddion a chynnydd y robot. Drwy ddarparu profiadau ymarferol gyda phrosiectau fel Farmbot, caiff y myfyrwyr eu paratoi ar gyfer yr hyn y gallant ei ddisgwyl mewn diwydiant. Drwy gyfleoedd o’r fath, gall myfyrwyr fanteisio ar y sgiliau y maent wedi’u dysgu ar eu rhaglennu a’u rhoi ar waith mewn senarios ‘byd go iawn’.